Mae Prifysgol Aberystwyth am gynnal blwyddyn o weithgareddau er mwyn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed.
Drwy gydol y flwyddyn, bydd y brifysgol, ei staff, a’i myfyrwyr yn ymuno â chymuned fyd-eang o gyn-fyfyrwyr a phartneriaid i ddathlu ei “chyfraniad eithriadol” a’u treftadaeth academaidd.
Cafodd y brifysgol ei sefydlu yn 1972, yn dilyn ymdrechion cymunedol a chenedlaethol i godi arian i sefydlu’r brifysgol gyntaf yng Nghymru.
O’r dechrau, ymrwymodd y brifysgol i agor ei drysau i fyfyrwyr o bob cefndir waeth beth fo’u hil a’u crefydd, ac mae eu llwyddiannau eraill yn cynnwys sefydlu’r Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf yn y byd ac agor Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru y llynedd.
‘Canolfan weledigaethol’
Dywed yr Athro Elizabeth Treasure, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ei bod hi “wir yn anrhydedd” bod yn rhan o brifysgol gyntaf Cymru wrth ddathlu carreg filltir “mor arwyddocaol”.
“Rydym yn ymfalchïo yn ein hanes, a’r gwaddol gwych y mae wedi’i greu, ond bydd y dathliadau hyn yn ymwneud â’n dyfodol yn ogystal â’n gorffennol,” meddai.
“Fel prifysgol nid ydym erioed wedi sefyll yn ein hunfan, gan ddatblygu’n gyson, wrth i ni ymateb i heriau newydd a chyfnewidiol y mae cymdeithas yn eu hwynebu.
“Caiff hyn ei amlygu yn ein hymchwil blaengar a’r prosiectau addysgol uchelgeisiol y mae academyddion Aberystwyth yn arwain arnynt, megis ein gwaith newydd ym maes addysg gofal iechyd a fydd yn cychwyn yn y flwyddyn arbennig hon.
“Mae hyn yn rhan o’n cenhadaeth, a ddechreuwyd yn yr Hen Goleg yn 1872, ac yn ystod y pen-blwydd hwn bydd cartref gwreiddiol y Brifysgol yn cael ei drawsnewid i fod yn ganolfan weledigaethol i fyfyrwyr, y gymuned ac ymwelwyr.
“Rydym ni’n ddiolchgar i’r nifer o bobl sydd wedi cefnogi’r prosiect hwn mor hael gyda’u cyfraniadau a byddwn yn parhau i godi arian i’r Hen Goleg trwy gydol y flwyddyn er mwyn helpu i gyflawni ein cynlluniau cyffrous.”
Y dathliadau
Mae’r cynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer dathlu’r garreg filltir yn cynnwys partneru gydag Urdd Gobaith Cymru a chymryd rhan yn eu Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn Oslo, prifddinas Norwy, ym mis Mai.
Bydd y flwyddyn pen-blwydd yn cychwyn wedyn yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ym mis Awst, gyda rhaglen o weithgareddau ar y maes ac ar gampws Penglais.
Fe fydd y pen-blwydd swyddogol yn cael ei nodi gyda rhaglen wythnos o ddigwyddiadau yn Aberystwyth, Caerdydd a Llundain pan fydd llyfr pen-blwydd yn cael ei gyhoeddi sy’n coffáu 150 o straeon drwy 150 o wrthrychau’n adrodd hanes y brifysgol.
Bydd hynny’n digwydd yn ystod yr wythnos yn dechrau ar Ddiwrnod y Sefydlwyr (Hydref 14), sef achlysur blynyddol yn Aberystwyth i ddathlu’r diwrnod yr agorodd y brifysgol ei drysau am y tro cyntaf.
‘Myfyrio ar hanes balch Aberystwyth’
Yn ystod y flwyddyn, mae Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth, a gafodd ei sefydlu yn 1892, yn dathlu ei phen-blwydd yn 130 oed, a Chanolfan y Celfyddydau’n dathlu’r 50 hefyd.
Dywed Lauren Marks, Llywydd Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr, eu bod nhw wrth eu boddau’n nodi’r “garreg filltir ryfeddol hon yn hanes balch Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr”.
“Mae gennym ni dros 9,000 o aelodau ledled y byd ac edrychwn ymlaen at eu cynnwys yn y dathliadau ac ymuno â’r brifysgol yn ei rhaglen gyffrous wrth i ni rannu’r penblwyddi arbennig hyn, gan fyfyrio ar hanes balch Aberystwyth ond hefyd edrych i’r dyfodol,” meddai.
“I ni, bydd y flwyddyn yn dod i ben gyda phenwythnos aduniad gwych yn Aberystwyth ym mis Mehefin 2023 pan fydd llawer o’n haelodau’n edrych ymlaen at ddod at ei gilydd i ddathlu wyneb yn wyneb.”
Daw’r flwyddyn i ben gydag wythnos raddio ym mis Gorffennaf 2023.