Mae Menter Caerdydd, Menter Iaith Bro Morgannwg, Menter Iaith Rhondda Cynon Taf a Menter Cwm Gwendraeth Elli yn dathlu ar ôl iddyn nhw dderbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i hybu’r Gymraeg ledled y de.

Bydd yr arian yn cyfrannu at lu o weithgareddau dros y misoedd sydd i ddod, o gynherddau cymunedol i ddosbarthiadau ffitrwydd, ac o weithdai ar-lein i ddwy ŵyl Gymraeg gymunedol boblogaidd.

Roedd Menter Caerdydd wedi llwyddo yn eu cais am £10,000 tuag at Ardal Lles yng ngŵyl Tafwyl yng nghastell Caerdydd ar benwythnos Mehefin 18-19, a honno’n fan tawel ac yn lleoliad ar gyfer gweithgareddau i blant a phobol sydd eisiau ymlacio ar eu pennau eu hunain.

Daw hyn flwyddyn ar ôl iddyn nhw dderbyn £80,500 ar y cyd â Menter Iaith Bro Morgannwg y llynedd i ddarparu sesiynau ar gyfer oedolion dros gyfnod o dair blynedd – o ddosbarthiadau ffitrwydd i gyrsiau hanes, ac o gyngherddau i deithiau cerdded.

Caiff y gweithgareddau eu cynnal mewn cydweithrediad â mudiadau ac elusennau fel Re-engage Cymru, Coed Lleol, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Dysgu Cymraeg Caerdydd.

Dros y misoedd diwethaf, cafodd cyfres o gyngherddau ‘Mewn Tiwn’ eu cynnal yn rhad ac am ddim yn Rhiwbeina ar y cyd â Live Music Now, gydag artistiaid fel Jessica Robinson a Rhiannon Pritchard yn cymryd rhan.

“Mae’r grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ein caniatáu i ddarparu cyfleoedd i oedolion gymdeithasu, dysgu a datblygu sgiliau newydd drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Heulyn Rees, Prif Weithredwr Menter Caerdydd a Menter Iaith Bro Morgannwg.

“Y gobaith yw creu ysbryd cymunedol a dod â phobl at ei gilydd beth bynnag eu hoed. Rydym yn hynod ddiolchgar am y grant sy’n creu fframwaith cadarn i ni barhau i ddatblygu a chreu cyfleoedd newydd dros y blynyddoedd nesaf.”

Derbyniodd Menter Iaith Bro Morgannwg £10,000 yn ddiweddar i ddatblygu’r elfennau cymunedol a’r gweithgareddau i blant yng Ngŵyl Fach y Fro, gŵyl Gymraeg ar gyfer y gymuned gyfan a fydd yn cael ei chynnal eleni yn Ynys y Barri ar 21 Mai.

Yn y cyfamser, mae Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn defnyddio £10,000 i ddatblygu eu prosiect ‘Medrau’ yn un wyneb yn wyneb, gan gadw’r elfen ddigidol hefyd, gan ddarparu gweithdai iaith Gymraeg a fydd yn addas ar gyfer pob oedran, gan roi cyfle i aelodau’r gymuned rannu eu sgiliau a dysgu sgiliau newydd.

Derbyniodd Menter Cwm Gwendraeth Elli yn Sir Gaerfyrddin £10,000 i sefydlu gwasanaeth llinell gymorth o wirfoddolwyr a fydd yn cefnogi aelodau’r gymuned sy’n dioddef o unigrwydd ac arwahanrwydd o ganlyniad i bandemig Covid-19.

Bydd y Fenter hefyd yn cadw banc o wybodaeth am wasanaethau cefnogi yn yr ardal fydd yn hawdd i drigolion lleol gael mynediad ato.

‘Diolch’

“Rydyn ni’n gwybod pa mor werthfawr yw gwaith y Mentrau Iaith ledled Cymru yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau ac yn falch iawn o allu’u cefnogi gyda’r bwrlwm o weithgareddau sydd ar y gweill,” meddai Awel Jones, Swyddog y Gymraeg yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

“Mae’r Mentrau hefyd yn cefnogi iechyd a lles trwy ddod â phobl at ei gilydd yn gymdeithasol gydol y flwyddyn, sy’n hollbwysig yn dilyn y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Diolch iddyn nhw am eu gwaith, a diolch i bawb sy’n prynu tocynnau’r Loteri Genedlaethol am wneud prosiectau fel hyn yn bosibl.”