Mae Dr Catrin Hedd Jones yn dweud bod yna “lot o waith i’w wneud” i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei hesgeuluso wrth ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobol sy’n byw â dementia.
Roedd y darlithydd mewn Astudiaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor yn siarad yn lansiad Siarter newydd am effaith gwahaniaethau ieithyddol a diwylliannol ym mhrofiadau pobol sy’n byw â dementia, pwysigrwydd bod yn rhagweithiol wrth gynnal asesiadau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac argymhellion ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yn y dyfodol.
Mae’n dweud bod y siarter ar gyfer pobol sy’n byw â dementia ac sydd angen gofal mewn ysbyty, a’u teuluoedd.
“Mae o’n rhan o’r gwaith i wella iechyd yng Nghymru, ac o ran y ddarpariaeth yn Gymraeg, mae o’n adeiladu ar lot o ddarpariaethau eraill fel y Cynllun Gweithredu Dementia,” meddai wrth golwg360.
Nid tan 2019 y bu’n rhaid sicrhau bod y Gymraeg a Saesneg yn gyfartal ym maes gofal iechyd, ac felly doedd hynny ddim yn rhan o Fesur Iechyd 2011, eglura.
Ond “mae’r rheoliadau yna o fewn y siarter”, meddai.
“Pethau fel sicrhau bod staff a gwirfoddolwyr yn gwybod am bwysigrwydd yr iaith a’r diwylliant, sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant i wella’u sgiliau, mae hwnnw’n rhan o’r gyfraith ond mae hi’n braf gweld ei fod yn cael ei gynnwys yn y siarter gofal dementia mewn ysbytai.”
‘Cam ymlaen’
Er bod Dr Catrin Hedd Jones yn teimlo bod y Siarter yn “gam ymlaen”, mae hi’n poeni bod cryn dipyn o’r ddarpariaeth bresennol wedi cael ei haddasu o gynlluniau yn Lloegr, yn hytrach na chael eu teilwra ar gyfer Cymru a’r Gymraeg.
“Weithiau ti’n teimlo, ‘Ydyn nhw’n sicrhau bod y Cynnig Rhagweithiol yn rhan ohono fo?’,” meddai.
“Dw i’n meddwl bod hynny’n rhywbeth y bydd rhaid inni wastad ofyn y cwestiwn, ‘Ydy pobol yn cael y cynnig wrth ddod mewn i’r ysbyty pa iaith maen nhw eisiau?’
“Fel rhywun oedd yn siarad yna, fi oedd yr unig siaradwr Cymraeg, fi oedd â’r unig gyflwyniad Cymraeg, fi oedd yr unig un efo sleids Cymraeg.
“Dw i’n teimlo er mai Gwelliant Iechyd Cymru ydy’r corff, doedd y gynhadledd ei hun ddim yn ddwyieithog iawn.
“Mae yna wastad waith i guro ar y drws, a sicrhau bod pawb yn cofio am yr iaith Gymraeg hefyd.”
‘Y staff ddylai addasu i anghenion y person, nid fel arall’
Mae’r siarter yn adeiladu ar reoliadau safonau’r Gymraeg mewn gofal iechyd, ac mae’n dilyn egwyddorion sydd wedi dod gan y Coleg Brenhinol Nyrsio sy’n sôn am staff, partneriaethau, asesiadau, gofal ac amgylchedd, ac mae gwirfoddoli a llywodraethiant wedi cael eu hychwanegu hefyd.
“Pan oeddwn i’n sôn am y themâu hynny wedyn, roeddwn i’n sôn ei bod hi’n berthnasol o ran y siarter bod rhaid i bawb gael ymwybyddiaeth mai dim lle y person sy’n rhoi’r gwasanaeth ydy o i ddisgwyl i’r person sy’n byw â dementia i addasu i’w hangenion cyfathrebu nhw,” meddai Dr Catrin Hedd Jones wedyn.
“Ddylsa bod y staff yn addasu i anghenion y person.
“Mae gen ti angen cofnodi sgiliau ieithyddol staff yn y byrddau iechyd, a phan roeddwn i’n edrych ar y data ar gyfer 2020, mae gen ti amrywiaeth – Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe, dim ond un ym mhob tri sydd wedi ateb os oes gennyn nhw sgiliau ieithyddol.
“So sut wyt ti’n mynd i matsio sgiliau’r person i’r gwasanaeth os nad wyt ti’n gwybod sgiliau dy staff di? Mae yna lot o waith casglu gwybodaeth.
“Yn y siarter, roedd o’n dweud ei fod o’n bwysig eu bod nhw’n deall a bod yna hyfforddiant a recriwtio am fod i fynd efo hynna.
“Wedyn mae o’n sôn am bartneriaethau, so bod rhaid i bawb gydweithio. Os oes yna rywun wedi dewis yr iaith Gymraeg, eu bod nhw’n dweud wrth bawb arall sy’n gofalu amdanyn nhw.
“Gofal, mae’n rhaid i ti roi cyfle i bobol wella mewn lle maen nhw’n gyfforddus ac maen nhw’n gallu gwneud gweithgareddau sy’n iach iddyn nhw, eu bod nhw’n symud o gwmpas ac yn cymdeithasu.
“Sut wyt ti’n gwneud hynny os ti ddim yn adnabod iaith a diwylliant y person sydd angen y gofal?”
‘Does dim rhaid i’r staff i gyd fod yn siarad Cymraeg’
Yn ôl Dr Catrin Hedd Jones, dydy sicrhau darpariaeth Gymraeg ddim o reidrwydd yn golygu sicrhau bod yr holl staff sy’n gofalu am bobol sy’n byw â dementia yn siarad Cymraeg, ac mai ymwybyddiaeth yw’r peth pwysicaf.
“Fysa chdi’n gallu cael papur bro neu gerddoriaeth, dydy o ddim yn golygu bod rhaid i’r staff i gyd fod yn siarad Cymraeg ond bod yna ymwybyddiaeth bod o’n bwerus.
“Gwirfoddolwyr, bod gwirfoddolwyr yn deall bod yr anghenion iaith yn rhan o’r siarter hefyd, sy’n beth da.
“Roedden nhw hefyd yn dweud bod yna gyfleoedd i bobol wirfoddoli mewn ysbytai. Wel, be’ am edrych am y cyfle i’r person sydd angen gofal sydd efo sgiliau Cymraeg… y bysa nhw’n gallu meithrin hyder y staff i siarad ychydig bach mwy o Gymraeg? Troi o rownd ychydig bach.
“Mae yna bosibilrwydd i feithrin hyder staff wrth ryngweithio mewn ffordd mwy positif.”
‘Colli cyfle’
Bydd pobol sy’n cael cytundebau i weithio mewn ysbytai hefyd yn gorfod dilyn y siarter, meddai Dr Catrin Hedd Jones wedyn, gan fynegi amheuon ynghylch pwy fydd yn gyfrifol am fonitro hynny.
“Os ydy o’n dweud yn y siarter bod angen gwerthfawrogi iaith a bo chdi fod i gynnig y Cynnig Rhyngweithiol, dydy o ddim yn get-out clause bod rhywun wedi cael contract neu sub-contract allan o’r gwasanaeth iechyd,” meddai.
“Mae hynna’n mynd i fod yn ddiddorol, ydyn nhw’n mynd i fod yn monitro hynna?
“Roeddwn i’n gofyn y cwestiwn, maen nhw wedi gwneud ymchwil gan y Gymdeithas Alzheimer ar y gofal mae pobol yn ei gael yn yr ysbytai ac yn dweud bod yna ddiffyg gwybodaeth gan bobol am ddementia.
“Dyma fi’n gofyn yn y cyfarfod, ‘Ddaru chi ofyn os oedd pobol wedi cael dewis iaith yn eich ymchwil?’
“’Wedi anghofio’… Colli cyfle i sicrhau bod pobol yn deall bod hynna’n hawl iddyn nhw. Heb inni ofyn y cwestiwn does neb byth yn mynd i wybod bod o’n iawn iddyn nhw gael y gofal yna.
“Ti’n teimlo bod o’n cael ei guddio neu’n cael ei roi fel ryw gynffon i syniadau weithiau, ond dyna fo, mae’n rhaid dal i ofyn yn does.
“Mae’n rhaid i’r corff roi’r neges ddwyieithog yna ymlaen fel bod o’n annog y staff i fod yn ddwyieithog.
“Mae yna lot o waith i’w wneud.”