Cymunedau fydd wrth wraidd ymgyrch etholiadau lleol y Ceidwadwyr Cymreig, yn ôl arweinydd y blaid yn y Senedd.

Bydd Andrew RT Davies, a ddychwelodd i’w rôl ym mis Ionawr 2021 ar ôl dwy flynedd a hanner, yn lansio’r ymgyrch mewn digwyddiad yn Llandudno heddiw (dydd Iau, Ebrill 7).

Yno, bydd yn dweud bod 669 o ymgeiswyr Ceidwadol yn sefyll ar Fai 5, sef y nifer uchaf erioed.

Cafodd y Ceidwadwyr etholiadau lleol llwyddiannus yn 2017, gan gymryd rheolaeth dros Gyngor Mynwy.

Mae’r blaid hefyd mewn clymbleidiau llywodraethol ym Mhowys, Conwy, Wrecsam, a Sir Ddinbych.

Ac mae Andrew RT Davies yn ffyddiog y bydd y twf yn y gefnogaeth i’r Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i dyfu ym mis Mai.

‘Parhau i ffynnu’

Wrth lansio’r ymgyrch, bydd yn dweud bod y “Ceidwadwyr Cymreig yn brwydro dros Gymru ar lefel lleol, Seneddol ac yn San Steffan”.

“Bydd eleni yn gweld y twf yna yn parhau i ffynnu, gyda’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno’r nifer uchaf o ymgeiswyr erioed mewn etholiadau lleol Cymreig,” meddai.

“Ar draws Cymru, mae cynghorwyr y Ceidwadwyr Cymreig yn gweithio’n galed i gyflawni dros eu cymunedau.

“Rydw i wrth fy modd y bydd mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn gallu pleidleisio dros bencampwyr lleol fydd yn gallu adeiladu cymunedau cryfach a mwy diogel.”

‘Materion lleol’

Yn aml, mae’r naratif ar lefel Brydeinig yn dylanwadu ar y ffordd mae pobol yn pleidleisio yn yr etholiadau lleol.

Ond er gwaethaf yr holl sgandalau sydd wedi amgylchynu ei blaid yn San Steffan dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Andrew RT Davies yn ffyddiog mai “materion lleol” fydd yn dylanwadu ar bleidlais pobol wrth ethol cynghorwyr sir.

“Yr hyn fyddan nhw eisiau ei weld gan yr ymgeiswyr sy’n canfasio ar eu stepen drws ydi ymgeiswyr lleol sydd wrth galon eu cymunedau yn galw am welliannau yn yr ardal leol, boed hynny yn oleuadau strydoedd, tyllau ar lonydd, agor parciau, gwasanaethau bws cynaliadwy a sicrhau bod lleisiau pobl leol yn cael eu clywed,” meddai wrth siarad â golwg fis diwethaf.

“Fe fydd ymgeiswyr y Ceidwadwyr Cymreig yn sicr yn cadw at yr ethos yma.

“Wrth gwrs, mae materion gwladol yn dylanwadu ar bleidlais pobol.

“Fodd bynnag, o ‘mhrofiad i mewn gwleidyddiaeth, pan mae hi’n dod at etholiadau lleol mae pobol yn dueddol o bleidleisio ar sail materion lleol.”