Mae protest wrth-niwclear wedi cael ei chynnal y tu allan i swyddfa Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn, wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig lansio’u strategaeth ynni.
Fe allai hyd at wyth adweithydd niwclear arall gael eu cymeradwyo ar safleoedd presennol – gan gynnwys safle Wylfa – fel rhan o’r strategaeth.
Yn y cyfamser, mae Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn yr Unol Daleithiau ar gyfer trafodaethau â Westinghouse am orsaf niwclear newydd yn y Wylfa.
Mae’r ymgyrchwyr yn awyddus i wneud dau bwynt i Virginia Crosbie, sy’n gadeirydd ar y Grŵp Darparu Niwclear ac sydd wedi cael y llysenw ‘atomic kitten’ gan Boris Johnson.
Yn gyntaf, maen nhw’n galw arni i gefnogi eu galwad ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i osod sancsiynau ar fewnforion wraniwm o Rwsia er mwyn helpu pobl Wcráin.
Yn ail, maen nhw’n dymuno dweud y dylai’r Deyrnas Unedig fod yn dangos i’r byd sut y byddai ynni gwynt a solar, â chefnogaeth gorsafoedd pŵer wedi’u tanio gan hydrogen, yn darparu trydan dibynadwy i ddefnyddwyr beth bynnag y bo’r tywydd.
Mae’r mudiad yn dweud nad yw honiadau gweinidogion fod angen llwyth sylfaen niwclear i gefnogi technolegau adnewyddadwy sy’n ddibynnol ar dywydd yn wir.
‘Rhybudd amserol’
“Mae gwledydd democrataidd gorllewinol mor ddibynnol ar wraniwm dan reolaeth Rwsia ag y mae Ewrop ar nwy o Rwsia,” meddai llefarydd ar ran PAWB.
“Felly, byddai sancsiynau ar wraniwm o Rwsia yn helpu Wcráin ac yn rhoi rhybudd amserol am ddiogelwch ynni’r Gorllewin.
“Ni ddylai Boris Johnso wneud sylwadau ymosodol am ‘hapchwarae’n fawr ar ynni niwclear’. Mae’n dechnoleg gymhleth a radio wenwynig.
“Gall ynni gwynt, solar, tanwydd hydrogen a thechnolegau adnewyddol eraill ddarparu trydan dibynadwy i ddefnyddwyr beth bynnag y tymor a’r tywydd.
“Byddai trydan adnewyddadwy wrth gefn wedi’i ddosbarthu’n eang yn gwella gwytnwch y Grid a sicrwydd ynni yn fawr tra bod gorsafoedd niwclear yn peri risgiau sylweddol i ddiogelwch cenedlaethol.
“Mae’n rhyfedd hefyd fod Simon Hart yn cynnal trafodaethau â chwmni Westinghouse. Aeth Toshiba Westinghouse yn fethdalwyr yn 2018 ar ôl gorfod rhoi’r gorau i adeiladu dau adweithydd AP1000 ar safle V.C.Summer yn Ne Carolina 40% o’r ffordd i mewn i’r gwaith adeiladu.
“Mae trethdalwyr De Carolina yn dal i dalu am y ffolineb hwnnw.”
Fe wnaeth mudiadau anllywodraethol sydd ar Fforwm niwclear yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ac sy’n cyfarfod â’r gweinidog ynni a swyddogion niwclear yr adran dair gwaith y flwyddyn, alwad ysgrifenedig i’r Gweinidog Ynni Greg Hands am sancsiynau ar wraniwm o Rwsia.
Amlygodd y grŵp ddibyniaeth uchel y Gorllewin, yn enwedig yr Unol Daleithiau, ar wraniwm o Rwsia, ond maen nhw’n dweud nad oedden nhw wedi derbyn ymateb.
“Mwyafrif” pobol Ynys Môn o blaid niwclear
Fodd bynnag, mae David TC Davies, sy’n Weinidog yn Swyddfa Cymru, yn mynnu bod “mwyafrif pobol Ynys Môn yn gefnogol iawn o niwclear”.
“Mae hyn yn cynnwys yr Aelod Senedd sy’n aelod o blaid sy’n erbyn niwclear fel arfer, y cyngor yn hollol o blaid ac mae llawer o bobol yn gallu gweld y cyfleoedd,” meddai wrth siarad ar raglen ‘Dros Frecwast’ BBC Radio Cymru.
“Mi fyswn yn hapus iawn i fyw drws nesaf i orsaf niwclear ac wrth gwrs dw i’n byw jyst i lawr y lôn o Hinkley.
“Mae’r UN (Cenhedloedd Unedig) yn dweud ei fod e’n saff… mae’n lot fwy saff na llawer o ffyrdd arall o greu ynni, ac wrth gwrs os rydyn ni am gael net zero erbyn 2050 yna mae’n rhaid i ni gael niwclear.
“Mae’r UN yn dweud na fydd yn bosib lleihau carbon heb niwclear.”
‘Blynyddoedd ar ei hôl hi’
Yn wir, mae Rhun ap Iorwerth, yr Aelod lleol o’r Senedd, a Llinos Medi, arweinydd y Cyngor, sydd ill dau yn cynrychioli Plaid Cymru, o blaid gorsaf niwclear newydd ar Ynys Môn.
Y gŵyn ganddyn nhw yw fod y prosiect “flynyddoedd ar ei hôl hi”.
“Pa fath o Lywodraeth sy’n penderfynu’n sydyn fod angen strategaeth ynni fel petai’n syniad newydd?” meddai’r ddau mewn datganiad ar y cyd.
“Fe allen nhw fod wedi bod yn bwrw ymlaen yn barod ar gynhyrchu ynni niwclear ac ynni adnewyddadwy ar raddfa anferth.
“Yn lle hynny, mae teuluoedd yn dioddef wrth i gost ynni gynyddu’n aruthrol.
“Rydan ni wedi bod yma o’r blaen gyda Wylfa, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig a fethodd â’i ddylifro, nid ni’n lleol.
“Rŵan, rydan ni flynyddoedd ar ei hôl hi, gyda’r angen i ddechrau eto ar y gwaith o geisio gofalu am fuddiannau’r ynys – sut i wneud y mwyaf o fuddion economaidd tra’n gwarchod yn erbyn yr heriau sylweddol fyddai’n anochel yn dod yn ei sgil.
“A heb unrhyw gyllid yn ei le, mae’n dal yn fater o os daw o.
“Dyma Lywodraeth sydd wedi meddwl mwy am ddal gafael ar bŵer nac ar gadw’r pŵer ymlaen.
“Ac wrth newid meddwl a chreu ansicrwydd dro ar ôl tro ar ôl tro ar Wylfa mae wedi trin cymunedau Ynys Môn mewn ffordd gwbl ddi-hid.”
“Barod i gydweithio”
Mae Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Dylan J Williams, yn dweud ei fod yn “barod i gydweithio” â’r Llywodraeth er mwyn adeiladu gorsaf bŵer niwclear newydd ar Ynys Môn.
“Mae’n ymddangos bellach bod gwir ddyhead o fewn Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddod â niwclear newydd i Wylfa, fel rhan o sicrhau cymysgedd o ynni ar gyfer y dyfodol a fyddai’n lleihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil ac yn bodloni targedau sero net,” meddai mewn datganiad.
“Mae’n hanfodol, wrth gwrs, ein bod yn dysgu’r gwersi o’n profiadau diweddar o ddatblygu niwclear ar Ynys Môn a sicrhau eu bod yn dylanwadu cynlluniau’r dyfodol mewn ffordd bositif.
“Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i letya gorsaf bŵer niwclear ar Ynys Môn ar yr amod ei bod yn darparu buddion trawsnewidiol hirdymor – o ran swyddi lleol, cyfleoedd cadwyn gyflenwi a chyfleoedd i’n cymunedau a’n trigolion.
“Mae parchu cymunedau Ynys Môn, diogelu’r Gymraeg a diwylliant yr Ynys ac amddiffyn yr amgylchedd ynghyd ag ymrwymiad i ymgysylltu â’r cyhoedd hefyd yn parhau’n elfennau hanfodol.
“Rydym yn barod i barhau i gydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatblygu a darparu’r prosiect Wylfa newydd.
“Yn sicr, dylid defnyddio profiad blaenorol y Cyngor o weithio ar brosiect niwclear a’n dealltwriaeth o’r ynys a’i chymunedau.”