Mae prif weinidog Albania yn dweud y gallai’r wlad wneud cais unigol i ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, gan gefnu ar gais ar y cyd â Gogledd Macedonia.

Mae’r ddwy wlad wedi pasio’r meini prawf i ymuno â’r bloc o 27 o wledydd ond yn 2020, fe wnaeth Bwlgaria atal trafodaethau rhag cael eu cynnal ar gyfer Gogledd Macedonia gan ddadleu nad oedd y wlad wedi cadw at delerau cytundeb yn 2017 o ran hanes a iaith.

Gan fod ceisiadau’r ddwy wlad wedi’u cysylltu a bod angen cydsyniad unfrydol gwledydd yr Undeb Ewropeaidd er mwyn cynnal trafodaethau, mae’r bleidlais gan Fwlgaria hefyd yn atal cais Albania rhag mynd rhagddo.

Dywed Edi Rama, prif weinidog Albania, y byddai’r wlad yn gofyn i Skopje am wahanu pe bai Bwlgaria yn parhau i atal y trafodaethau.

Tra bod Serbia a Montenegro wedi dechrau trafodaethau i geisio aelodaeth lawn, mae Bosnia a Cosofo wedi cymryd cam cychwynnol yn unig.

Yn ôl yr Undeb Ewropeaidd, mae integreiddio gwledydd gorllewin y Balkans yn “flaenoriaeth strategol”.