Mae llys wedi clywed bod myfyriwr “naïf” wedi dweud celwydd wrth yr heddlu am le’r oedd y ferch a gafwyd yn euog o lofruddio Dr Gary Jenkins mewn parc yng Nghaerdydd ar noson yr ymosodiad arno.
Mae Lewis Newman, 18, wedi pledio’n euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder ar ôl dweud bod Dionne Timms-Williams wedi aros yn ei gartref ar noson yr ymosodiad ym Mharc Biwt yn y brifddinas.
Cafodd Dr Gary Jenkins, oedd yn seiciatrydd ymgynghorol, ei guro a’i arteithio a’i adael i farw yn dilyn ymosodiad homoffobig arno gan Dionne Timms-Williams a dau ddyn ar Orffennaf 20 y llynedd.
Bu farw ar Awst 5 o ganlyniad i’w anafiadau.
Roedd Timms-Williams, oedd yn 16 oed ar y pryd, Jason Edwards (26) a Lee Strickland (36) wedi gwadu llofruddio, ond cafwyd y tri yn euog a’u dedfrydu i oes o garchar fis diwethaf.
Mae disgwyl i’r ferch dreulio 17 mlynedd dan glo cyn y bydd modd iddi wneud cais am barôl.
Erlyniad
Mae Llys y Goron Caerdydd wedi clywed bod Dionne Timms-Williams wedi cysylltu â Lewis Newman oriau’n unig ar ôl yr ymosodiad, gan ofyn iddo a fyddai’n fodlon dweud celwydd ei bod hi wedi aros gyda fe ar noson yr ymosodiad.
Roedd hi’n “annelwig”, meddai Newman, gan ddweud wrtho ei bod hi wedi bod yn rhan o “ddigwyddiad difrifol”, ond heb ymhelaethu.
Ar ôl iddi gael ei harestio, fe wnaeth yr heddlu gysylltu â Lewis Newman, oedd yn 17 oed ar y pryd, ac fe ddywedodd e gelwydd wrthyn nhw, meddai’r erlynwyr.
Pan roddodd e ddatganiad i’r heddlu, roedd ymchwiliad i geisio llofruddio a lladrata ar y gweill, gan nad oedd Dr Gary Jenkins wedi marw erbyn hynny.
Dywedodd Newman wrth yr heddlu fod Timms-Williams wedi bod gyda fe rhwng 5 o’r gloch a 9 o’r gloch ar noson yr ymosodiad, a hynny yn ardal canolfan hamdden Maendy.
Aeth e adref am 9 o’r gloch, meddai, a doedd e ddim wedi ei gweld hi eto tan 2 o’r gloch y bore canlynol.
Dywedodd ei fod e wedi clywed rhywun yn curo ar y drws ond ei fod e wedi bod yn cysgu ac, wrth iddo agor y drws, gofynnodd Timms-Williams a fyddai hi’n gallu aros dros nos.
Dywedodd ei bod hi wedi ailosod ei ddillad gwely i ddiolch iddo am gael aros.
Wrth gael ei holi gan yr heddlu, dywedodd Newman ei fod e’n credu bod Timms-Williams wedi ymweld â ffrind arall ar ôl gadael ei gartref.
Ddeuddydd yn ddiweddarach, dywedodd y ffrind fod Timms-Williams wedi mynd i’w chartref hi, gan honni ei bod hi wedi bod gyda dau ddyn digartref a bod yna “ffrwgwd” yn y parc.
Amddiffyniad
Dywedodd cyfreithwyr ar ran Lewis Newman ei fod e’n “naïf”, “swil” a “mewnblyg” ac nad oedd ganddo fe lawer o ffrindiau agos.
Ond newidiodd hynny ar ôl iddo fynd i’r coleg a chyfarfod â Dionne Timms-Williams.
Dywedodd ei gyfreithiwr nad oedd e wedi sylweddoli ar y pryd pa mor ddifrifol oedd y drosedd, ac nad oedd yr hyn roedd e wedi ei ddweud wrth yr heddlu wedi newid trywydd yr ymchwiliad.
Dywedodd ei fod e’n gwbl ddiniwed cyn y digwyddiad hwn, a bod y cyfan wedi cael effaith ddifrifol ar ei iechyd meddwl.
Dywedodd ei fod e’n “difaru” peidio dweud y gwir, a bod yn flin ganddo am hynny.
Wrth ei ddedfrydu i chwe mis mewn sefydliad ieuenctid, wedi’i ohirio am 12 mis, fe wnaeth y barnwr ei orchymyn i gwblhau 150 awr o waith di-dâl a thalu £128 o gostau.