Ar Ebrill 6, daeth cynrychiolaeth gref o aelodau cyfredol a chyn-aelodau Ysgol Farddol Caerfyrddin at ei gilydd i ddathlu ei phen-blwydd yn ddeg ar hugain.
Hon yw ysgol farddol hynaf Cymru ac mae hi wedi bod yn gyfrwng i gannoedd ddysgu crefft cerdd dafod a thrafod hanfodion llenyddiaeth gydag amryw yn mynd yn eu blaenau i ennill prif wobrau llenyddol cenedlaethol ac i gyhoeddi’u gwaith.
Er i Covid amharu rywfaint ar y trefniadau, braf oedd cael cwmni dau o aelodau gwreiddiol yr ysgol, sef Llŷr James a Tudur Dylan Jones, sy’n parhau yn ganolog i’w bywyd a’i gwaith.
Roedd amryw wedi teithio o bell gan gynnwys Tudor Davies o Ganada a fu’n aelod cynnar o’r dosbarth.
Bu i nifer ymaelodi â’r ysgol yn ystod y cyfnod clo ac wedi cynnal perthynas rithiol â’r ysgol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf tan inni ddod i’w ‘nabod wyneb yn wyneb o’r diwedd.
Roedd un o’r aelodau gwreiddiol, Geraint Roberts, yn methu bod yno oherwydd anhwylder ond eto trwy gyfrwng digidol llwyddodd i ymddangos ar sgrin, megis pen Bendigeidfran yng Ngwales, chwedl Mererid Hopwood, i roi cyfrif ysbrydoledig o ddyddiau cynnar yr ysgol a’r modd iddi ddatblygu dros gyfnod ei bodolaeth.
Braf hefyd oedd cael croesawu Emyr Davies, neu Emyr y Graig, fel y’i gelwir, yn westai arbennig ac yntau wedi bod yn feirniad yn eisteddfod gyntaf yr ysgol yn y flwyddyn 2000.
Bu’n noson o hel atgofion, sôn am droeon trwstan a hiraethu am y rhai sydd wedi’u colli.
Ond trwy’r profiad melys chwerw hwnnw bu’n gyfle i brocio’r cof ac fe fydd yna gyfrol yn cael ei chyhoeddi ar drothwy’r haf yn olrhain hanes yr ysgol arbennig hon sydd wedi, ac yn parhau, i roi mwynhad a her i’w haelodau.
Heb amheuaeth, bu’n noson i’w chofio ac yn deilwng o Wledd y Pen Urddol!
Ymlaen yn awr at y degwadau nesaf.