Mae Llenyddiaeth Cymru wedi lansio ail rownd rhaglen ddatblygu broffesiynol i awduron sy’n cael eu tangynrychioli.

Cynrychiolaeth a chydraddoldeb yw un o brif flaenoriaethau Llenyddiaeth Cymru, ac mae’r rhaglen Cynrychioli Cymru yn “cynnig cyfraniad uniongyrchol tuag at newid cadarnhaol o fewn y sector”.

Bydd y rhaglen yn cynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol i 14 o awduron o gefndiroedd incwm isel, sydd wedi’u dethol gan Banel Asesu Annibynnol.

Fe fydd Llenyddiaeth Cymru’n cefnogi’r criw i ddatblygu eu gwaith a meithrin eu talent drwy gynnig gwobr ariannol o hyd at £3,500 i bob awdur llwyddiannus a thrwy sesiynau mentora.

Elfen allweddol o’r rhaglen fydd gwneud yr agweddau galwedigaethol o ysgrifennu creadigol a’r broses gyhoeddi yn fwy hygyrch.

Bydd deg gweithdy’n cael eu cynnal a bydd cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn ar ffurf cyfleoedd i rwydweithio a mynychu gwyliau a digwyddiadau llenyddol.

Byddan nhw’n cael cyfle i gwrdd ag awduron megis Cathy Rentzenbrink, Pascale Petit, Eloise Williams a Kit de Waal yn ystod y flwyddyn, ynghyd â chyhoeddwyr o Gymru a sefydliadau arbenigol fel The Society of Authors.

‘Amhrisiadwy’

Dywed Emily Burnett, a oedd yn aelod o garfan 2021/22, fod y gefnogaeth a’r haelioni gan Lenyddiaeth Cymru wedi bod yn “anhygoel”.

“Erbyn hyn mae gen i Asiant Llenyddol, ac mae fy hyder yn fy ngwaith wedi cynyddu gymaint, yn ogystal â fy nymuniad i archwilio genres newydd,” meddai.

“Mae fy mherthynas gyda fy mentor wedi bod yn amhrisiadwy ac wedi llywio fy ngyrfa mewn cyfeiriad mor bositif. Fedra i ddim diolch yn ddigonol i Llenyddiaeth Cymru am y cyfle hwn.”

‘Sylw haeddiannol’

Mae Cynrychioli Cymru yn gam pwysig ar daith Llenyddiaeth Cymru i gefnogi diwylliant sy’n cynrychioli holl gymunedau Cymru, a sicrhau eu bod nhw’n buddsoddi mewn unigolion talentog fydd yn cael eu cydnabod ledled Cymru a thu hwnt, yn ôl Leusa Llewelyn, Arweinydd Creadigol Llenyddiaeth Cymru.

“Rydym yn eithriadol o lwcus fod Cymru’n gyfoethog o ran talent llenyddol; mae yma amrywiaeth eang o awduron, pob un ohonynt yn adrodd eu straeon eu hunain yn eu hieithoedd eu hunain,” meddai.

“Rydym yn falch fod y rhaglen hon yn rhoi sylw haeddiannol i 14 ohonynt, sydd â 12 mis o gyfleoedd arbennig iawn o’u blaenau.”

Yr awduron

Mae’r awduron, sy’n arbenigo mewn gwahanol ffurfiau a genres ac yn trafod ystod o themâu yn eu gwaith, wedi cael eu dewis gan banel o arbenigwyr o gefndiroedd incwm isel – Tanya Byrne, Connor Allen, Iola Ynyr, Emma Smith-Barton a Niall Griffiths.

Anastacia Ackers, Sir y Fflint – Awdur, gwneuthurwr theatr, a hwylusydd sy’n angerddol am hanes a mytholeg. Hi yw cadeirydd panel TEAM National Theatre Wales ar hyn o bryd ac mae hi wedi gweithio fel rhan o brosiect TEAM Wrecsam National Theatre Wales ers 2019. Mae hi hefyd yn gweithio gyda Outside Lives, menter gymdeithasol ddielw wedi’i leoli ym Maeshafn, Sir y Fflint ac mae hi yn cefnogi’r grŵp LikeMinded ar gyfer pobol sy’n byw gyda dementia.

Rosy Adams, Aberystwyth – Cafodd ei magu ym Mannau Brycheiniog, a graddiodd fel myfyriwr hŷn o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 2017 gydag MA mewn Ysgrifennu Creadigol. Mae hi’n ysgrifennu straeon byrion yn bennaf, ond mae hi’n gweithio tuag at gynhyrchu nofelau a naratifau ffeithiol.

Kittie Belltree, Aberteifi – Cafodd ei magu yn ne Llundain, ond mae hi wedi byw yn y gorllewin ers 35 mlynedd. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Sliced Tongue and Pearl Cufflinks, yn 2019. Cwblhaodd PhD mewn archwilio cynrychioliadau ieithyddol o drawma yn ddiweddar, ac mae hi’n gweithio fel hwylusydd gweithdai.

Jon Doyle, Port Talbot – Mae’n gweithio ar ei nofel gyntaf ar hyn o bryd, ac mae ganddo MA mewn ysgrifennu creadigol o Brifysgol Caerdydd a PhD o Brifysgol Abertawe.

Alix Edwards, Caerdydd – Artist aml-lwyfan sy’n cyfuno ffotograffiaeth, paentio, testun, gosodiadau a’r gair llafar i roi llai i gymunedau ymylol. Mae ganddi MA mewn Ysgrifennu Creadigol ac MA mewn Ffotograffiaeth. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar nofel am oblygiadau trais domestig ac yn creu rhaglen ar-lein i rymuso menywod yn greadigol.

Simone Greenwood, Casnewydd – Cafodd ei magu yn Cumbria, ond mae hi wedi byw yng Nghwm Sirhywi ers ugain mlynedd. Yn 2021, cyd-sefydlodd Ymaginosity, sefydliad sy’n meithrin storïwyr ifanc. Mae Simone yn ysgrifennu ffilmiau byr a ffuglen i blant, ac enillodd y Ffilm Orau a’r Sgript Orau yng ngwobrau It’s My Shout 2019.

Ben Huxley, Bangor – Ers cyhoeddi stori fer yn 12 oed, mae’n gwybod mai ysgrifennu yw ei wir gariad, er ei fod yn ymddiddori ym myd y ffilm, theatr, a newyddiaduraeth gemau fideo hefyd.

Bridget Keehan, Caerdydd – Hi yw Cyfarwyddwr sefydlol Papertrail / Llwybr Papur, cwmni theatr sy’n arbenigo mewn datblygu ysgrifennu newydd ar gyfer gofodau theatr anghonfensiynol. Cyn sefydlu Papertrail, ysgrifennodd Bridget ei PhD ar ymarfer theatr mewn carchardai, pwnc a gododd o’i phrofiad o weithio yn y carchar fel awdur a gwneuthurwr theatr. Ar wahân i ysgrifennu academaidd, mae Bridget wedi ysgrifennu ffuglen fer a thestunau ar gyfer perfformiad.

Ciaran Keys, Bangor – Dechreuodd ei diddordeb mewn ysgrifennu a chyfryngau ffuglennol yn ystod plentyndod wrth wylio ffilmiau genre clasurol a thyrchu trwy nofelau arswyd. Ei uchelgais yw ysgrifennu llyfrau sy’n atseinio gyda phobol sydd hefyd wedi’u hudo a’u haflonyddu gan y pethau rhyfedd y mae dynoliaeth yn eu gwneud, tra hefyd yn archwilio ei brofiadau ei hun trwy ffuglen genre gorliwiedig.

Amy Kitcher, Aberpennar – Mae hi’n siarad pedair iaith ac mae ganddi radd Meistr mewn rhyfela modern. Dechreuodd ysgrifennu tua’r un amser ag y cafodd ei tharo gan gar pensiynwr ac ysgrifennodd ddrafft cyntaf ei nofel gyntaf mewn tua chwe wythnos, llawer llai o amser nag a gymerodd iddi wella.

Hattie Morrison, Llandysul – Ysgrifennu naratif ffeithiol a thraethodau tameidiog yw ei diddordeb, ac yn 2022 gorffennodd ei llyfr cyntaf, Venus As A Spinster, sy’n plethu cof, breuddwyd, llên gwerin, ymchwil archeolegol, a negeseuon tecst i archwilio hanes, darluniad, a dilead merched sy’n nyddu edau o dreftadaeth Gymreig. Mae ei gwaith yn ddychanol, felancolaidd, ac wedi’i wreiddio’n gadarn mewn bywyd gwledig.

Frankie Parris, Penarth – Bardd ac awdur traws sy’n ysgrifennu’n bennaf o brofiad personol, gan fyfyrio ar ei frwydrau gyda salwch meddwl, queerness, cariad a pherthnasoedd, a derbyniad o’i hunaniaeth fel dyn traws. Er mai barddoniaeth yw’r rhan fwyaf o’i waith, mae Frankie hefyd wedi bod yn gweithio ar gasgliad o straeon byrion ac mae’n gobeithio archwilio pob ffurf o ysgrifennu, gan gynnwys ysgrifennu ffilmiau a dramâu.

Anthony Shapland, Caerdydd – Artist, awdur a churadur a gafodd ei fagu yn y Bargoed cyn mynd i’r coleg i astudio Celfyddyd Gain. Magwyd mewn oes oedd ddim ond yn dechrau newid ei hagwedd gymdeithasol, gyfreithiol, a moesol tuag at ddynion hoyw, ac mae’r awydd i ‘beidio â sefyll allan’, hyd yn oed ar ôl ‘dod allan’, wedi cael effaith barhaol ar ei holl waith.

Alex Wharton, Pont-y-pŵl – Perfformiwr barddoniaeth ac awdur a enillodd Wobr Rising Stars Cymru yn 2020. Daydreams and Jellybeans yw casgliad cyntaf Alex o farddoniaeth, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021. Mae Alex yn un o 11 o awduron a gydweithiodd ar gyfrol newydd ar y Mabinogion o’r enw Y Mab, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ystod haf 2022 yn y Gymraeg a’r Saesneg.