Mae telynores o fri o Wcráin wedi bod wrthi heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 12) yn recordio perfformiad arbennig mewn stiwdio yn Ffrainc ar gyfer Cyngerdd Gŵyl Delynau Cymru yng Nghaernarfon nos fory (nos Fercher, Ebrill 13).

Bydd perfformiad Veronika Lemishenko yn cael ei ddarlledu yn ystod y Cyngerdd yn Galeri, a fydd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan delynorion adnabyddus fel Ben Creighton-Griffith a Gwenllian Llŷr, a Chôr Telynau Gogledd Cymru.

Mae’r Ŵyl Delynau Cymru yn digwydd heddiw a fory (Ebrill 12 a 13), o dan ofal Canolfan William Mathias – y tro cyntaf ers tair blynedd, ar ôl iddi gael ei gohirio yn 2020 oherwydd y pandemig. Mae’r Ŵyl yn cyfuno cyngherddau gyda dosbarthiadau meistr a gweithdai, gan gynnig cyfle i delynorion o bob oed a gallu dysgu gan rai o berfformwyr gorau’r byd.

Pan ddechreuodd y rhyfel yn Wcráin, gadawodd Veronika Lemishenko Rwsia lle’r oedd hi’n gweithio gyda cherddorfa. Ers hynny mae wedi teithio o gwmpas gwledydd Ewrop yn trefnu cyngherddau a dosbarthiadau i godi arian tuag at ei sefydliad elusennol hi ei hun i gefnogi’r sefyllfa ddyngarol yn Wcráin.

Doedd hi ddim wedi gallu cael visa i deithio i Gymru mewn pryd, ac felly mae hi wedi recordio perfformiad yn unswydd ar gyfer Gŵyl Delynau Cymru yng nghartref cwmni telynau Camac yn Ffrainc. Bydd yn perfformio unawdau gan dri chyfansoddwr o Wcráin – Basyl Barvinsky, Myroxlac Skoryk, ac Evgen Andreev.

“Rydan ni’n ddiolchgar i gwmni Camac – maen nhw’n gadael iddi iwsio telyn a stiwdio i recordio,” meddai Meinir Lloyd Roberts, Cyfarwyddwr Canolfan William Mathias, trefnwyr yr ŵyl delynau.

“Byddan ni’n dangos hwnna yn ein cyngerdd ni, ac yn gallu rhannu gwybodaeth â’r gynulleidfa ynglŷn â sut i gefnogi ei hymgyrch.

“Mae hi wedi bod yn teithio o wlad i wlad ar hyd Ewrop yn cydweithio efo ffrindiau ym myd y delyn, i drefnu cyngherddau, a’r arian yn mynd i’w chronfa elusennol hi, sydd wedyn yn cael ei drosglwyddo i amrywiaeth eang o elusennau mae hi’n gwybod amdanyn nhw ar lawr gwlad yn Wcráin.

“Mae hi hefyd wedi cynorthwyo nifer o delynorion ifanc oedd yn astudio yn yr Ysgolion Cerdd yn Wcráin. O fewn pythefnos, roedd hi wedi gallu trefnu eu bod nhw’n parhau â’u hastudiaethau mewn colegau eraill ac wedi eu hail-leoli efo’u teuluoedd.

“Mae hi’n dangos y cryfder anhygoel yma. Tra mae hi wrthi’n gwneud hyn, yn teithio o un lle i’r llall, mae ganddi’r pryder am ei theulu a’i ffrindiau sy’n parhau i fod yn Wcráin.”

Bob pedair blynedd mae Canolfan William Mathias yn trefnu Gŵyl Delynau Ryngwladol – fe fydd y nesaf yn 2023.

Enillodd Veronika Lemishenko wobrau yn yr Ŵyl Delynau Ryngwladol yn 2014 a 2018.

Dim gŵyl delynau yn Kharkiv

Digwydd bod, roedd yr ŵyl mae hi Veronika Lemishenko ei hun yn ei threfnu bob blwyddyn yn Kharkiv – Gŵyl Delynau Glowing Harp – i fod i agor fory. Mae honno, wrth reswm, wedi cael ei gohirio.

“Mae’r ffaith bod ei gŵyl hi i fod i gychwyn fory, yr un pryd â’n gŵyl ni, yn ei wneud o hyd yn oed yn fwy emosiynol,” meddai Meinir Lloyd Roberts.

“Mae hi’r fath o berson sy’n benderfynol y bydd yna ŵyl arall yn Kharkiv pan fydd hynny’n bosib.”

Ar hyn o bryd, mae rhieni’r delynores wedi dianc o Kharkiv i le ychydig yn fwy diogel yn Lviv. Yn rhaglen yr ŵyl delynau, mae’r geiriau: ‘Rydyn ni, yng Ngŵyl Delynau Cymru, yn llawn edmygedd o gryfder Veronika a’i phenderfyniad i ddefnyddio ei cherddoriaeth fel grym er daioni.’

Sgwrs “emosiynol” ag Elinor Bennett

Bydd Elinor Bennett, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Delynau Cymru, yn recordio sgwrs Zoom ymlaen llaw gyda’r delynores o Wcráin i’w darlledu yng Nghyngerdd yr Ŵyl.

“Y bwriad yn wreiddiol oedd ein bod ni am gael sgwrs fyw efo hi yn y cyngerdd ond, wrth gwrs, mae ei sefyllfa a’i threfniadau hi’n newid o ddiwrnod i ddiwrnod,” meddai Meinir Lloyd Roberts, Cyfarwyddwr Canolfan William Mathias.

“Mae hi’n mynd i fod yn hedfan yr amser yna nos fory, felly rydan ni am fynd i recordio sgwrs dros Zoom i’w dangos yn y Cyngerdd. Mae hwn yn gyfraniad bach i ddenu sylw i’w hymgyrch chi sy’n arbennig.

“Mi fydd o’n emosiynol iawn i Elinor wneud y cyfweliad. Am Veronica roedden ni’n meddwl fel rhywun roedden ni’n ei adnabod efo cysylltiadau ag Wcráin, ac rydan ni wedi bod mewn cyswllt cyson efo hi dros yr wythnosau diwetha’.

“Wedyn mi ddoth yr awydd yma i ni wneud rhywbeth o Gymru i ddangos cefnogaeth byd y delyn yng Nghymru iddi hi.”

Uchafbwynt arall Cyngerdd yr Ŵyl Delynau fydd y perfformiad rhyngwladol cyntaf o waith newydd gan y gyfansoddwraig ragorol Mared Emlyn, o Lanrwst, ‘Melangell.’

Bydd y telynor Dylan Cernyw, un o diwtoriaid yr ŵyl, yn chwarae yng nghaffi Galeri am 6.45pm cyn prif gyngerdd yr ŵyl am 7.30pm.

Mae golwg360 ar ddeall bod telyn Veronica Lemishenko – sydd yn llochesu ym Mharis ar hyn o bryd – yn dal i fod yn Kharkiv, mewn adeilad sydd ar hyn o bryd yn lloches rhag bomiau.