Mae pum newid yn nhîm rygbi merched Cymru i herio Ffrainc nos Wener (Ebrill 22).

Daw’r newidiadau ar ôl i Gymru golli o 58-5 yn erbyn Lloegr yn eu gêm ddiwethaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Elinor Snowsill a Keira Bevan fydd yn dechrau yn safleoedd yr haneri, tra bod Robyn Wilkins yn dychwelyd i’r canol yn lle Kerin Lake.

Bydd Cerys Hale a Natalia John yn dychwelyd i’r pac, ynghyd â Bethan Lewis, fydd yn dechrau gêm am y tro cyntaf yn yr ymgyrch.

Mae’r capten Siwan Lillicrap yn ei hôl yn safle’r wythwr, gyda Sioned Harries yn dychwelyd i’r fainc.

Mae Silisia Tuipolotu, yr ail reng, allan o’r garfan tra bod Niamh Terry, y maswr, yn dychwelyd, gyda Donna Rose a Kerin Lake wedi’u henwi ymhlith yr eilyddion.

Cymru: Kayleigh Powell; Lisa Neumann, Hannah Jones, Robyn Wilkins, Jasmine Joyce; Elinor Snowsill, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Carys Phillips, Cerys Hale, Natalia John, Gwenn Crabb, Alisha Butchers, Bethan Lewis, Siwan Lillicrap (capten)

Eilyddion: Kelsey Jones, Cara Hope, Donna Rose, Alex Callender, Sioned Harries, Ffion Lewis, Kerin Lake, Niamh Terry.