Mae Mark Drakeford wedi disgrifio cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig i anfon ceiswyr lloches i Rwanda tra bod eu cais i aros ym Mhrydain yn cael ei brosesu fel un “creulon, drud ac aneffeithiol”.

Mae’n debyg y bydd y cynllun – sydd yn cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Ebrill 14) – yn gweld dynion sengl sy’n cyrraedd arfordir de Lloegr yn cael eu hadleoli, ac o bosib eu hannog i aros yn Affrica.

Yn ôl Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, bydd y cynllun yn amddiffyn ffoaduriaid sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio.

Fodd bynnag, wrth siarad ar BBC Radio Wales, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod y cynllun yn un “niweidiol i enw da’r Deyrnas Unedig yn llygaid gweddill y byd”.

Ychwanegodd nad yw’n credu y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn llwyddo i gael y cynllun drwy’r senedd.

“Dydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim hyd yn oed wedi llwyddo i gael y gyfraith trwy’r senedd a fyddai’n rhoi pŵer iddyn nhw wneud yr hyn maen nhw’n bwriadu ei gyhoeddi heddiw,” meddai.

Yna, gan gyfeirio at y newyddion fod Heddlu Llundain wedi rhoi dirwyon i’r Prif Weinidog Boris Johnson a’r Canghellor Rishi Sunak am fynychu parti yn Rhif 10 yn ystod y cyfnod clo, ychwanegodd Mark Drakeford nad yw’n “credu ei bod hi’n or-sinigaidd i awgrymu y bydd y Prif Weinidog yn falch o gael stori wahanol ar y bwletinau newyddion na’r un sydd wedi dominyddu dros y dyddiau diwethaf”.

“Dw i ddim yn gallu gweld sut mae’n gallu parhau yn y swydd,” meddai wedyn.

‘Cam trugarog?’

Fodd bynnag, wrth drafod y cynlluniau newydd, dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrth Sky News fod ganddo’r potensial i fod yn “gam gwirioneddol drugarog ymlaen”.

“Rydym yn ceisio diogelu buddiannau pobol,” meddai.

“Mae hyn i fod yn ymwneud â gallu gwahaniaethu rhwng mudwyr economaidd, ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

“A cheisio gwneud yn siŵr bod pobol yn mynd i le diogel.

“Mae hynny’n rywbeth y byddwn yn dychmygu y gallem uno mewn rhyw fath o gytundeb.”

‘Anghredadwy o greulon’

Mae Simon Hart wedi cael ei lambastio yn dilyn y cyfweliad hwnnw, gyda Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, yn dweud bod ei sylwadau’n “gywilyddus”.

“Unwaith eto, mae Simon Hart wedi dangos nad oes ganddo unrhyw asgwrn cefn,” meddai.

“Dylai fod â chywilydd mawr ohono’i hun am amddiffyn y polisi creulon a diangen hwn, mae’n wirioneddol gywilyddus.

“Mae cynllun y Llywodraeth Geidwadol i anfon ffoaduriaid ar draws y môr, filoedd o gilomedrau o’r Deyrnas Unedig, yn anghredadwy o greulon.

“Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, bydd y cynllun yn costio hyd at £1.4bn y flwyddyn i’w weithredu, llawer mwy na’r system loches bresennol.

“Mae’r gwrthdaro yn Wcráin wedi dangos bod y cyhoedd yng Nghymru yn barod i groesawu ffoaduriaid, mae Simon Hart a’r Ceidwadwyr yn byw ar blaned arall.”