Mae’r Arglwydd David Wolfson wedi ymddiswyddo o’i rôl yn Weinidog Cyfiawnder, wrth iddo ymateb i gyfreithiau Covid-19 gafodd eu torri yn Stryd Downing.

Daw hyn ar ôl i Heddlu Llundain roi dirwyon i’r Prif Weinidog Boris Johnson a’r Canghellor Rishi Sunak am fynychu parti yn Rhif 10 yn ystod y cyfnod clo.

Mewn llythyr at Boris Johnson, beirniadodd yr Arglwydd David Wolfson – sy’n Farwn ar dref Tredegar ym Mlaenau Gwent – yr “ymateb swyddogol” i “dorri rheolau dro ar ôl tro”.

Fe yw’r person cyntaf i adael y Llywodraeth ers i adroddiadau o bartïon y cyfnod clo ddod i’r amlwg.

Ond beth am yrfa wleidyddol yr Arglwydd David Wolfson, a pham ei fod yn Farwn Tredegar?

Cafodd David Wolfson ei benodi’n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar Ragfyr 22, 2020 ond ni fu erioed yn Aelod Seneddol.

Ychydig dros wythnos yn ddiweddarach, cafodd ei greu’n Farwn Wolfson o Dredegar, a chafodd ei gyflwyno i Dŷ’r Arglwyddi ar Ionawr 7 y llynedd.

Wrth egluro ei benderfyniad i ddod yn Farwn ar Dredegar, dywedodd yr Arglwydd David Wolfson wrth y Jewish Telegraph, “fel cymuned Iddewig ym Mhrydain, rydym yn byw yn yr hyn a alwodd Rabbis Talmudic yn ‘deyrnas o garedigrwydd’.

“Mae hon yn wlad oddefgar lle gallwn ymarfer ein crefydd, a lle mae gennym hawliau sifil a chrefyddol llawn.

“Roeddwn i eisiau cymryd enw lle a fyddai yn fy atgoffa o’r materion hynny.

“Daethon ni yma fel mewnfudwyr a galluogodd cymdeithas Prydain ni i ffynnu fel cymuned.

“Mae’n bwysig i mi gofio’r dyddiau cynnar hynny a ble mae ein gwreiddiau, sydd, yn fy achos i, yn ne Cymru.

“Mae fy hen dad-cu wedi’i gladdu ym Merthyr Tudful a chafodd fy hen wncl Jac ei eni yn ystod terfysgoedd gwrth-Iddewig 1911 yn Nhredegar.”

‘Rheolau wedi cael eu torri dro ar ôl tro’

Er bod y torcyfraith yn Downing Street yn un rheswm dros ymddiswyddiad yr Arglwydd David Wolfson, mae’n dweud bod yr “ymateb swyddogol i’r hyn a ddigwyddodd” wedi dylanwadu ar ei benderfyniad.

“Yn aml, gall cyfiawnder fod yn fater o lysoedd a gweithdrefn, ond mae’r gyfraith yn fater arall – egwyddor gyfansoddiadol sydd, wrth ei gwraidd, yn golygu bod pawb mewn gwladwriaeth, ac yn wir y wladwriaeth ei hun, yn ddarostyngedig i’r gyfraith,” meddai mewn llythyr at y Prif Weinidog.

“Mae’n ddrwg gennyf fod datblygiadau diweddar wedi dod â mi i’r casgliad anochel bod rheolau wedi cael eu torri dro ar ôl tro, a bod tor-cyfraith wedi digwydd yn Downing Street.

“Rwyf wedi dod i’r casgliad bod graddfa, cyd-destun a natur yr achosion hynny o dorri’r rheolau yn golygu y byddai’n anghyson â rheol y gyfraith i’r ymddygiad hwnnw gael ei esgusodi gan imiwnedd cyfansoddiadol, yn enwedig pan oedd llawer mewn cymdeithas yn cydymffurfio â’r rheolau ar gost bersonol enfawr, a bod eraill wedi wynebu dirwy neu erlyniad am weithredoedd tebyg, ac o dro i dro, troseddau llawer iawn mwy dibwys.

“Nid mater o’r hyn a ddigwyddodd yn Downing Street yn unig ydyw, na’ch ymddygiad eich hun.

“Mae hefyd, ac efallai’n fwy i wneud â’r ymateb swyddogol i’r hyn a ddigwyddodd.

“Gan ei bod yn amlwg nad yw’n rhannu’r farn honno am y materion hyn, rhaid i mi ofyn i chi dderbyn fy ymddiswyddiad.”