Bydd mam a thad sydd wedi’u cyhuddo o ladd ei merch, oedd ag anableddau, drwy adael iddi fynd yn ordew yn mynd gerbron llys fis Ionawr y flwyddyn nesaf.

Cafwyd hyd i Kaylea Titford, 16, yn ei chartref yn y Drenewydd fis Hydref 2020.

Mae ei thad Alun Titford, 44, a’i mam Sarah Lloyd-Jones, 39, wedi’u cyhuddo o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol ac achosi neu alluogi marwolaeth plentyn neu berson bregus.

Maen nhw wedi’u cyhuddo o fethu â sicrhau, rhwng Mawrth 24 a Hydref 11 2020, fod anghenion diet eu merch wedi cael eu diwallu, ac arweiniodd hynny at ordewdra.

Maen nhw hefyd wedi’u cyhuddo o fethu â sicrhau ei bod hi’n gwneud digon o ymarfer corff, o sicrhau hylendid a’i bod hi’n byw mewn rhywle glân.

Maen nhw wedi’u cyhuddo hefyd o fethu â sicrhau digon o gymorth meddygol iddi.

Roedd disgwyl iddyn nhw gyflwyno ple yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw (dydd Iau, Ebrill 14), ond mae Alun Titford yn yr ysbyty ar hyn o bryd.

Bydd gwrandawiad o’r newydd yn dechrau ar Fehefin 30, ac mae disgwyl i’r achos ddechrau ar Ionawr 16.