Mae Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn Llywodraeth Cymru, wedi annog teuluoedd cymwys i ymuno â’r cynllun Cychwyn Iach.

Mae’r cynllun yn galluogi teuluoedd i gael bwyd iach a fitaminau am ddim, ond dydy bron i 40% o bobol sy’n gymwys ddim yn ei hawlio ar hyn o bryd, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun Cychwyn Iach ar gael i’r rhai hynny sydd dros 10 wythnos yn feichiog neu sydd â phlentyn o dan bedair oed ac sy’n cael budd-daliadau penodol.

O ddegfed wythnos beichiogrwydd nes bod plentyn yn bedair oed, gall rhywun fod yn gymwys i fwy na £1,200 i’w wario ar fwyd iach.

Mae modd darganfod a ydych chi’n gymwys drwy ymweld â gwefan www.healthystart.nhs.uk.

Mae modd defnyddio cardiau Cychwyn Iach mewn siopau sy’n gwerthu bwyd ac sy’n derbyn MasterCard, er mwyn prynu:

  • llaeth buwch
  • ffrwythau a llysiau ffres, wedi’u rhewi neu mewn tuniau
  • codlysiau sych neu mewn tuniau
  • llaeth fformiwla babanod cyntaf

“Yn gyffredinol, nid yw pedwar o bob deg person yng Nghymru a allai fod yn cael cefnogaeth gan y cynllun Cychwyn Iach wedi gwneud cais eto,” meddai Lynne Neagle.

“Rwy’n annog pobol sy’n meddwl y gallen nhw fod yn gymwys i wneud cais ar-lein.

“Yn anffodus, mae’r costau byw cynyddol yn effeithio ar gymaint o deuluoedd yng Nghymru, a ledled y Deyrnas Unedig.

“Rwy’n awyddus i sicrhau bod pobol yn ymwybodol o Cychwyn Iach a’u bod yn defnyddio’r cynllun i’w helpu i brynu bwyd iach i’w teuluoedd.”