Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn dweud bod y cynlluniau i anfon ffoaduriaid a cheiswyr lloches i Rwanda yn “warthus”.

Mae’n debyg y bydd y cynllun yn gweld dynion sengl sy’n cyrraedd arfordir de Lloegr yn cael eu hadleoli, ac o bosib eu hannog i aros yn Affrica.

Yn ôl Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, bydd y cynllun yn amddiffyn ffoaduriaid sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio.

Daw sylwadau Liz Saville Roberts ar ôl i Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, ddweud bod y cylluniau “yn greulon, drud ac aneffeithiol”.

“Mae cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddefnyddio contractau allanol ar gyfer ein dyletswydd gyfreithiol ryngwladol i ffoaduriaid i gyfandir arall yn hollol warthus,” meddai.

“Dylem ein hatgoffa ni’n hunain ein bod ni’n siarad am fodau dynol sy’n ffoi rhag rhyfel, erledigaeth, torri’r hinsawdd – erchyllterau nad oes modd i nifer ohonom sy’n byw yn niogelwch a chysur y Deyrnas Unedig eu dychmygu.

“Mae’n anfoesol ac yn anymarferol gorfodi’r bobol hyn hanner ffordd ar draws y byd i Rwanda, gwlad dlawd sydd heb yr isadeiledd na’r adnoddau cywir i gefnogi ffoaduriaid, ac sydd â record hawliau dynol bryderus gyda hynny.

“Yn wir, does yna’r un lefel na fydd y llywodraeth hon yn gostwng iddi yn eu hymgais i dynnu sylw oddi ar dorcyfraith y Prif Weinidog.”

Beth yw’r ateb?

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae yna ateb arall i’r sefyllfa.

“Yr ateb cywir i roi terfyn ar symud pobol a chroesi’r Sianel, sy’n beryglus, ydi agor llwybrau cyfreithlon sy’n ddiogel ac effeithlon, cynyddu cefnogaeth ariannol a dyngarol i wledydd sydd wedi’u heffeithio, ac arwain ymdrechion rhyngwladol ar y cyd i fynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi dadleoli megis rhyfel a newid hinsawdd,” meddai.

“Mae yna gryn haelioni ymhlith pobol Cymru i gefnogi ffoaduriaid, fel rydyn ni wedi’i weld gyda Chartrefi i Wcráin.

“Mae’r polisi creulon, annynol a di-synnwyr a gafodd ei gyhoeddi’n dangos bod gan y llywodraeth hon reddf ddyngarol hyenas, nad ydyn nhw’n cyd-gerdded o gwbl â phobol Cymru.”