Mae cynghorydd Plaid Cymru yn dweud bod angen gwneud mwy i ddarparu addysg Gymraeg yng Nghaerffili.

Daeth sylwadau James Fussell yn ystod trafodaeth yn y Cyngor ar ddatblygiad tai fforddiadwy, lle daeth cadarnhad fod caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer y datblygiad yn Austin Grange.

Bydd blociau o fflatiau pedwar neu bum llawr yn cael eu codi ar y safle ger gwasanaeth Parcio a Theithio Gorsaf Caerffili, yn ogystal â nifer o dai dau neu dri llawr.

Mae’r 74 cartref newydd yn cynnwys fflatiau i bobol dros 55 oed, tai cymdeithasol ac eiddo lle mae’r berchnogaeth wedi’i rhannu.

Bydd storfa feics ac 83 lle i barcio ceir yn rhan o’r datblygiad hefyd, a gafodd ei gynnig gan gyfarwyddwyr Rhomco Consulting yng Nghaerdydd.

Bydd yr adeiladau newydd yn cael eu codi gan ddefnyddio cymysgedd o frics a cherrig lliwgar, cladin llwyd tywyll a thoeon llechi.

Ysgol Gyfun Caerffili

Yn yr adroddiad a gafodd ei gyflwyno i’r pwyllgor cynllunio yr wythnos hon, dywedodd Swyddog Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor y byddai digon o le yn yr ysgolion, ac eithrio Ysgol Gyfun Caerffili, ysgol cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd James Fussell, cynghorydd Plaid Cymru, ei fod yn cydnabod nad oedd y pwynt yr oedd yn dymuno’i godi’n berthnasol i’r cais penodol hwn, ond fe ddywedodd fod angen gwneud mwy i sicrhau addysg Gymraeg yng Nghaerffili.

“Mae’n ddatblygiad sydd ei angen yn nhermau cyrraedd ein cwota, ac yn ddatblygiad positif ar y cyfan,” meddai.

Roedd dau wrthwynebiad gan drigolion ar sail colli bywyd gwyllt, tagfeydd traffig a diffyg preifatrwydd i’r trigolion lleol ym Maes Glas.

Bydd y datblygiad yn cael effaith ar fywyd gwyllt lleol, ond dywedodd yr adroddiad fod buddiannau tai fforddiadwy yn cyfiawnhau hyn yn nhermau budd y cyhoedd.

Mae disgwyl i gamau gael eu rhoi yn eu lle hefyd i osgoi tarfu ar ystlumod.

Yn ogystal â sicrhau digon o le rhwng y tai sydd yno’n barod a’r tai newydd, mae awgrym y dylid gosod sgriniau preifatrwydd a ffenestri arbennig ar gyfer y lloriau uchaf er mwyn osgoi materion preifatrwydd i’r trigolion presennol.

Wnaeth adran ffyrdd y Cyngor ddim codi unrhyw bryderon am allu’r ffyrdd cyfagos i gynnal traffig ychwanegol a ddeuai yn sgil y cynlluniau, ac fe gafodd y datblygiad ei gymeradwyo’n unfrydol gan aelodau’r pwyllgor cynllunio yn y cyfarfod.