Mae o leiaf 150 o Balestiniaid wedi cael eu hanafu yn dilyn gwrthdaro â heddlu Israel yn Jerwsalem.

Yn ôl yr heddlu, aethon nhw i fosg Al-Aqsa i symud cerrig oedd wedi cael eu casglu ynghyd yn barod ar gyfer gwrthdaro.

Mewn fideos ar y we, mae modd gweld Palestiniaid yn taflu cerrig a’r heddlu’n chwistrellu nwy dagrau ac yn defnyddio ffrwydron o amgylch y mosg, yn ogystal ag addolwyr yn cau eu hunain y tu fewn i’r mosg wrth i’r heddlu ymateb.

Oriau ar ôl dechrau’r gwrthdaro, roedd yr heddlu’n honni eu bod nhw wedi tawelu’r sefyllfa ac wedi arestio “cannoedd” o bobol.

Roedd disgwyl i ddegau o filoedd o bobol fynd i’r mosg i weddïo ar ôl i’r sefyllfa ddod i ben.

Yn ôl Israel, roedden nhw wedi sicrhau heddwch wrth gynnal trafodaethau ag arweinwyr Mwslimaidd, ond fod Palestiniaid wedi mynd yno i daflu cerrig.

Yn ôl gwasanaethau brys Palesteina, roedden nhw wedi trin 152 o bobol oedd wedi cael eu hanafu gan fwledi neu ffrwydron, neu wedi cael eu curo â phastwn.

Dywed heddlu Israel fod tri swyddog wedi cael eu clwyfo, a bod dau wedi gadael y safle am driniaeth.

Yn ôl llywodraeth Israel, roedd dwsinau o Balestiniaid oedd yn cludo baneri Hamas wedi gorymdeithio i’r ddinas i gasglu cerrig.

Procio

Mae Palestiniaid yn ystyried anfon heddlu i fosg Al-Aqsa fel ymateb chwyrn ac fel gweithred o brocio.

Ond mae Israel yn dweud eu bod nhw’n “barod am unrhyw sefyllfa”.

Y mosg yw’r trydydd safle mwyaf sanctaidd yn ôl Mwslimiaid, a hwn hefyd yw safle mwyaf sanctaidd yr Iddewon.

Mae tensiynau wedi cynyddu dros yr wythnosau diwethaf, gydag adroddiadau am gyfres o ymosodiadau gan Balestiniaid sydd wedi lladd 14 o bobol yn Israel, ac mae Israel wedi ymateb drwy arestio nifer sylweddol o bobol a chynnal cyrchoedd milwrol yn y Lan Orllewinol.