Roedd Liz Saville Roberts yn un o’r siaradwyr mewn sgwrs banel yng Ngŵyl Syniadau Tyddewi dan gadeiryddiaeth y newyddiadurwr James Williams. Yr Arglwydd Peter Hain (Llafur) a’r newyddiadurwr Paul Mason oedd ar y panel gyda hi. Yma, mewn erthygl arbennig i golwg360, mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn ateb y cwestiwn a gafodd ei ofyn i’r panel…
Dydan ni ddim yn siarad am Brydeindod, ond mae angen i ni wneud.
Mae pobol sydd o blaid annibyniaeth i Gymru’n cael ein cyhuddo o fygwth Prydeindod. Gosodwyd cwestiwn i’w drafod gan banel yn ystod sesiwn gŵyl newydd, Gŵyl Syniadau, a gynhaliwyd yn Nhŷddewi yn ddiweddar: ‘a ddylen ni fod yn chwalu neu ail-greu Prydain?’
Dyma gwestiwn naw gair sy’n gwegian dan lwyth o ragdybiaethau. Gadewch i ni bwyso a mesur dylanwad y geiriau ‘chwalu’, ‘ail-greu’ a ‘Prydain’.
Mae’r gair ‘chwalu’ yn drwm dan faich ystyr dinistriol, gan awgrymu bod Prydain yn llestr fregus, yn etifeddiaeth werthfawr, sef rhywbeth sydd dan fygythiad o gael ei thorri’n ddeilchion. I’r gwrthwyneb, mae’r gair ‘ail-greu’ yn awgrymu gweithred o drwsio, dod â rhywbeth yn ôl i’w ffurf briodol neu ddatrys problem. Wrth roi gwrthgyferbyniad rhwng ‘chwalu’ ac ‘ail-greu’, mae’r cwestiwn yn rhagdybio y byddai cynulleidfa resymol yn dod ag agweddau amddiffynol tuag at y cysyniad o Brydain fel rhywbeth sydd eisiau ei gadw’n uned.
Prydain
Gadewch i ni edrych yn fanylach ar beth a gymerir yn ganiataol wrth ddefnyddio’r gair Prydain i ddisgrifio daearwleidyddiaeth yr ynysoedd sy’n gorwedd oddi ar orllewin cyfandir Ewrop.
Yn gyntaf, enw ar ddarn o dir yw Prydain: mae’n disgrifio’r ynys y mae gwledydd Cymru, Lloegr a’r Alban yn cyd-rannu, fel ag y mae Llychlyn yn disgrifio is-ardal gogledd Ewrop sy’n cynnwys Denmarc, Norwy, Sweden, Y Ffindir a Gwlad yr Iâ. Er bod Llychlyn yn cynnwys ynysoedd, derbynnir yn gyffredinol bod ynys Iwerddon yn uned ddaearyddol ar wahân i Brydain.
Yn ail, defnyddir y teitlau Prydain a’r Deyrnas Gyfun bob yn ail fel petai’n meddwl yr un peth gan bobol sy’n dadlau dros gadw Undeb y Deyrnas Unedig yn ei gwedd bresennol. Mae nifer o’r un bobol yn camgymysgu termau rhwng ‘Lloegr’, ‘Prydain’ a’r ‘Deyrnas Unedig’, sy’n rhoi awgrymiad o ble mae’r gwir rym yn gorwedd. Er bod Prydain fel uned ddaearyddol wedi bodoli yn ei ffurf bresennol ers yr oes iâ ddiwethaf, cysyniad gwleidyddol gweddol newydd yw’r Deyrnas Gyfun yn ei ffurf gyfredol. Wedi’r cwbl, ar 3 Mai 1921 rhannwyd gogledd Iwerddon oddi ar Wladwriaeth Rydd Iwerddon. Cyn hynny, roedd Deddfau Uno Lloegr a’r Alban yn 1706 a 1707, a Chymru, wrth gwrs, wedi ymgorffori â Lloegr gyda Deddfau Uno 1536 – 1545. Nid ffaith ddiymdroi mo’r Undeb, ond cyfres o ddewisiadau gwleidyddol yn sgil amgylchiadau’u hamser. Dewis gwleidyddol pleidiau unoliaethol Ynysoedd Prydain ac Iwerddon yn ystod yr 20fed ganrif oedd i bortreadu’r Undeb fel sefydliad hanesyddol na allai neb ei gwestiynu heb gael ei gyhuddo o ddiffyg teyrngarwch. Mae’r syniad o Brydain fel uned wleidyddol yn haeddu’i herio.
Os felly, ar sail pa egwyddorion y byddai rhwyun yn mynd ati i werthuso Prydeindod gwleidyddol? Ydi Prydeindod yn dod â buddiannau cyfartal o ran ansawdd bywyd trigolion yr ynysoedd yma? Ydi’n grymuso pobol ac yn annog cyfartaledd ar draws ei haelod-wledydd? Ydi cyfranogiaeth yn y modd y gwneir penderfyniadau am ein bywydau a’n perthnasau gyda’n gilydd – sef gwleidyddiaeth – yn adeiladu a diogelu cyfartaledd ar draws Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon? O blaid pwy mae Prydeindod?
Datganoli
Fe gafwyd datganoli 23 mlynedd yn ôl am y tro cyntaf ar gyfer Cymru, yr Alban ac am yr ail dro mewn canrif ar gyfer Gogledd Iwerddon. Ni chafwyd datganoli ar gyfer Lloegr, sydd wedi gadael gwaddol o wrthdaro buddiannau sylfaenol yn San Steffan. Y ffordd hawsaf i amlinellu hyn yw trwy gyfrif y niferoedd sy’n ffurfio’r fwyafrif Seisnig annochel: wrth wneud penderfyniadau ynghylch deddfau ac arian, bydd 533 Aelod Seneddol Lloegr o hyd yn gorbwyso’r 117 Aelod Seneddol arall o’r tair gwlad gyda’i gilydd, heb sôn am 40 Aelod Seneddol Cymru ar eu pennau eu hunain.
Anghyson oedd dyraniad pwerau rhwng y tair gwlad arall o’r cychwyn cyntaf ac wrth i ragor o bwerau gael eu datganoli. Cynulliad heb bwerau deddfau oedd gan Gymru’n wreiddiol, tra bod Senedd gan yr Alban. Gellir canfod bod y drefn bleidleisio i ddewis aelodau i Gymru a’r Alban wedi dylunio gan y Blaid Lafur gydag un llygad tuag sicrhau na fyddai’u grym yn y ddwy wlad gael ei danseilio. Profodd hynny’n wir am Gymru, er i’r gwrthwyneb yn yr Alban.
Roedd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon y modd i ddeddfu’n llawn o 1999, ac ni chafwyd hynny gan Gymru tan 2011. Yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon, nid oes gan Gymru awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Loegr. Mae’n Senedd yn gallu creu deddfau, ond does ganddi mo’r modd i reoli ar sut mae’r deddfau hynny’n cael eu defnyddio na’r holl gyfundrefn sy’n cynnal cyfiawnder ar draws ein bywydau. Mae rhywun yn gorfod gofyn a oedd y Llywodraeth Lafur a fu’n gyfrifol am strwythur a chapasiti gwreiddiol y Cynulliad yn 1998 yn fodlon ar sefyllfa lle roedd gan ein hegin-ddemocratiaeth Gymreig y modd i ymdopi gyda tlodi cronig ein gwlad ond yn ddilornus o roi’r grymoedd digonol i ni ddatrys tlodi.
Mae’n wir y gellir olrhain camau i gynyddu grymoedd dros yr 20 mlynedd ddiwethaf yn y berthynas rhwng Cymru a Llundain wrth i Lywodraethau San Steffan ddatganoli pwerau’n blith draphlith yn 1998, 2006, 2014 a 2017. Ond camau rhesymegol er mwyn cau bylchau gweithredol ac ehangu cyfrifoldebau mewn meysydd a gytunwyd yn barod oedd hyn. Mae gwir anghyfartaledd grym sy’n gynhennid i’r berthynas rhwng San Steffan a’r gwledydd heblaw Lloegr erioed wedi cael ei herio gan y pleidiau unoliaethol. Mae San Steffan yn gallu dewis rhoi, ac o hyd yn gallu dewis tynnu’n ôl; ni chaiff Cymru ond gofyn, ac, os yn ffodus, derbyn.
Dat-ddatganoli, Brexit a Phrydeindod-ar-steroids
Dros y blynyddoedd ac hyd yn oed heddiw, mae’r optimistiaid sydd o blaid rhinweddau’r setliad cyfansoddiadol yn dadlau na fydd byth proses o ddat-ddatganoli, a bod ewyllys pobol Cymru’n glir a chadarn o blaid cofleidio a chynyddu’r pwerau sydd gennym yn ein Senedd ein hunain. Ond daeth y sicrwydd naïf mai un trywydd ymlaen er gwell yn unig sy’n perthyn i hanes i ben ar yr ynysoedd yma gyda refferendwm Brexit yn 2016. Ers hynny, mae’r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain o dan arweinyddiaeth lugoer Theresa May a Phrydeindod-ar-steroids Boris Johnson fel ei gilydd wedi mynd ati i sathru ar Gonfensiwn Sewell, sy’n disgwyl na fyddai San Steffan yn deddfu mewn meysydd datganoledig. Mae’r angen i ailffurfio’r strwythurau a chwalwyd wrth ymadael â’r Undeb Ewropeiaidd wedi rhoi cyfle i wfftio’r cysyniad o gyfartaledd ymhlith seneddau a leolir yn y pedair gwlad.
Yn gyntaf, cafwyd y bachu pwerau a thra-arglwyddiaeth Harri’r 8fed trwy Ddeddf Diddymu’r Undeb Ewropeaidd 2018, ac wedyn Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 sy’n gallu rhwystro penderfyniadau Senedd Cymru mewn meysydd megis safonau bwyd neu’r amgylchedd. Er bod hynny’n codi’r cwestiwn a allai deddfwriaeth gael ei defnyddio i sicrhau mai’r safonau isaf sy’n cael eu cynnal er mwyn caniatáu masnachu dirwystr ar draws y Deyrnas Unedig, hyd yn hyn nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael y caniatâd i brofi’r cwestiwn mewn llys barn.
Y dyfodol
Felly un cwestiwn amlwg: a ydi’r Llywodraeth bresennol yn San Steffan yn parchu neu hyd yn oed ymddiried yn y Seneddau eraill, ac mae’n amlwg o edrych ar dystiolaeth ymddygiad y Ceidwadwyr wrth ddeddfu ers 2016 nad oes unrhyw fwriad ganddynt i ganiatáu i’n democratiaethau aeddfedu’n hyderus. Fel ag y mae pethau felly, rydym yn gaeth mewn ynys a Brydeinwyd.
Rydym wedi cerdded llwybr cyfansoddiadol gofalus ers 1999, gan gymryd camau bach, bach. Mae aelodau Comiswn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru dan gyd-gadeiryddiaeth Rowan Williams a Laura McAllister yn mynd ati i glywed tystiolaeth ar sut mae’r setliadau cyfansoddiadol wedi gwasanaethu pobol Cymru hyd yn hyn. Byddwn yn erfyn arnynt i gwestiynu pob dim y gofynnir iddynt ei gymryd yn ganiataol am rinweddau Prydeindod.