Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio i lansio menter unigryw i ddiogelu peillwyr gwerthfawr.

Mae’r Cynllun Caredig i Beillwyr, sy’n cael ei redeg gan dasglu Cynllun Gweithredu’r llywodraeth i Beillwyr, wedi cael ei ddatblygu i annog sefydliadau a chymunedau ar hyd a lled Cymru i weithredu i helpu peillwyr drwy ddarparu mannau fforio, mannaun nythu, defnyddio llai o blaladdwyr a chael cymunedau i gymryd rhan.

Mae tîm gwyddoniaeth yr Ardd Fotaneg wedi bod yn rhoi cyngor arbenigol ar gyfer llyfryn sy’n rhoi manylion y prif blanhigion i beillwyr i roi arweiniad i dyfwyr beth i’w blannu drwy’r flwyddyn.

“Dyma’r cynllun cenedlaethol cyfunol cyntaf o’i fath. Rydyn ni am weld pob sefydliad yng Nghymru yn cymryd rhan: cymunedau a chyrff cymunedol, ysgolion, cyrff cyhoeddus, cynghorau tref a chymuned,  busnesau, prifysgolion, colegau a mannau addoli,” meddai Kathleen Carroll, llefarydd ar ran y Tasglu.

“Nid sôn am wenyn yn unig mae’r cynllun Caredig i Beillwyr. Rydyn ni am i bobol weithredu i helpu ein holl beillwyr.”

‘Gwneud yr hyn sy’n dda i beillwyr’

Yn ôl Dr Abigail Lowe, swyddog gwyddoniaeth yr Ardd Fotaneg, “mae’r gwaith ymchwil mae’r tîm yn ei wneud yma wedi helpu adeiladu darlun clir iawn pa blanhigion sy’n berffaith i beillwyr”.

“Rydyn ni’n falch iawn i fod yn cymryd rhan flaenllaw yn y cynllun gwych hwn, a gobeithiwn y bydd y llyfryn newydd hwn yn rhoi i bobol Cymru yr holl wybodaeth mae ei hangen arnynt i wneud yr hyn sy’n dda i beillwyr,” meddai.

Ar sail eu gwaith ymchwil blaenllaw, mae’r Dr Lowe wedi dewis 30 o blanhigion a fydd yn gwneud eich lle chi yn fwy deniadol i beillwyr, boed yn fan cymunedol, yn lawnt, yn iard gefn neu’n gynwysyddion neu flychau blodau ar falcon.

Mae yna hefyd awgrymiadau ar dyfu o had, gwneud toriadau a chyngor ar wneud planhigion newydd drwy ddefnyddio technegau haenau a rhannu.