Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cefnogi cynlluniau i adeiladu ysgol newydd sbon i blant ag awtistiaeth.

Mewn cyfarfod yr wythnos hon, cytunodd aelodau’r Cabinet i dderbyn y cynlluniau a fyddai’n gweld capisiti Ysgol Plas Brondyffryn yn codi o 116 i 220.

Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn Sir Ddinbych ar bedwar safle, ond byddai’r ysgol newydd sbon yn dod â thri allan o’r pedwar safle ynghyd mewn un lleoliad.

116 yw capasiti’r ysgol ar hyn o bryd, ond mae gan yr ysgol 136 o ddisgyblion a deg o blant ar restr aros, a deg yn rhagor yn aros am asesiad am le yn yr ysgol.

Mae Ysgol Plas Brondyffryn yn addysgu plant tair i 19 oed, gan gynnig darpariaeth arbenigol i ddisgyblion sydd ag awtistiaeth.

Mae gan yr ysgol un safle cynradd, dau safle uwchradd ac adeilad preswyl.

Y cynnig

Cae drws nesaf i Ganolfan Hamdden Dinbych, sy’n cael ei defnyddio gan Ysgol Uwchradd Dinbych, yw safle arfaethedig yr ysgol newydd.

Clywodd cynghorwyr y byddai Llywodraeth Cymru’n ariannu 75% o gost yr adeilad newydd gwerth £23.8m gan fod galw cynyddol am ysgolion arbennig.

Bydd y Cyngor yn cyflwyno amlinelliad o achos strategol i Lywodraeth Cymru, ac yn dechrau ar gyfnod ymgynghori.

Y Cynghorydd Hugh Hilditch-Roberts yw’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am addysg, ac fe fu’n egluro pam fod angen adeildad newydd yn yr ysgol.

“Mae Ysgol Plas Brondyffryn dan ei sang, a does ganddyn nhw mo’r lle i gyflwyno’r hyn sydd ei angen i blant Sir Ddinbych a’r tu allan i’r ardal,” meddai.

“Ar y cyfan, byddai’r cynnydd hwn (mewn capasiti) yn gwasanaethu plant Sir Ddinbych.

“Mae’r rhaglen yn un rydyn ni eisiau sicrhau y medrwn ni ei chyflwyno.

“Rydym yn cydweithio ag Ysgol Uwchradd Dinbych, o ran tir nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd.

“Yr hyn rwy’n ei ofyn ydi a fedrwn ni fwrw iddi?

“Mae yna angen, ac mae’r ysgol yn llawn, a chyn gynted â phosib hoffem fwrw iddi efo’r prosiect hwn a chyflwyno’r cynnig cywir i blant a defnyddwyr gwasanaethau’r ysgol hon.”

“Er mwyn dangos pa mor bwysig ydi hyn, mae gennym ni blant nad ydyn nhw wedi cael eu hasesu ac sydd ar restrau aros i fynychu’r ysgol.

“Mae’n cael effaith enfawr ar ysgolion eraill a gall fod yn broblem yn yr ystafell ddosbarth i’r athrawon ac mae’n cynnig heriau i ddysgwyr eraill hefyd.

“Felly dw i eisiau tanlinellu pa mor bwysig ydi’r ddarpariaeth hon, nid yn unig i’r ysgol yn Ninbych ond i bob ysgol yn Sir Ddinbych.”

Clywodd cynghorwyr fod capasiti’r ysgol yn anodd i’w gyfrifo gan ei fod yn dibynnu ar anghenion disgyblion, sy’n gallu amrywio’n fawr.

Cefnogodd y Cabinet y cynigion yn unfrydol.

Clywodd cynghorwyr y byddai cais cynllunio yn y dyfodol yn destun proses ar wahân.