Mae “tystiolaeth amgylchiadol gadarn” fod gan endidau sy’n rhan o Lywodraeth Sbaen ran mewn ymosodiadau seibr yng Nghatalwnia, yn ôl uwch ymchwilydd ym Mhrifysgol Toronto yng Nghanada.
Daw sylwadau John Scott-Railton ddiwrnod yn unig ar ôl i The New Yorker adrodd am gasgliadau ymchwiliad.
Er nad oes modd priodoli’r ymosodiad “i un wladwriaeth bendant”, fe ddywedodd mewn cynhadledd i’r wasg ym Mrwsel ar y cyd rhwng pleidiau Esquerra Republicana a Junts per Catalunya, a mudiadau sifil Òmnium Cultural ac Assemblea Nacional Catalana, fod y targedau “o ddiddordeb amlwg” i Lywodraeth Sbaen yn sgil eu daliadau gwleidyddol, hynny yw eu bod nhw o blaid annibyniaeth i Gatalwnia.
Derbyniodd y targedau negeseuon testun oedd yn cynnwys manylion personol, megis rhifau adnabod llywodraeth, tra bod asiantaeth cudd-wybodaeth Sbaen yn un o gwsmeriaid yr NSO Group, y cwmni yn Israel oedd wedi datblygu rhaglen Pegasus, sy’n cael ei defnyddio gan wladwriaethau i gael mynediad i negeseuon, cof cyfrifiaduron ac i glustfeinio.
Roedd un o’r dioeddefwyr wedi derbyn manylion hediad SwissAir ar ôl archebu tocyn, ac wedi cael neges destun gyda rhif yr hediad a dolen niweidiol oedd yn cynnwys feirws.
Camau cyfreithiol
Mae’r mudiad o blaid annibyniaeth yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol yn erbyn yr NSO Group a Llywodraeth Sbaen yn sgil yr hyn mae Carles Puigdemont, cyn-Arlywydd Catalwnia, yn ei alw’n “sbïo anghyfreithlon gelyniaethus”.
Mae disgwyl iddyn nhw ddwyn achos yn Sbaen, Ffrainc, Gwlad Belg, y Swistir, yr Almaen a Lwcsembwrg, yn ogystal â’r Undeb Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig, medd gwefan Catalan News.
Mae lle i gredu bod pobol wedi cael eu targedu tra eu bod nhw yn Sbaen ac allan o’r wlad, yn ôl Oriol Junqueras, cyn-ddirprwy arlywydd Catalwnia.
Mae disgwyl i’r dioddefwyr alw am ddadl frys ar y mater, yn ogystal ag eglurhad gan Lywodraeth Sbaen.