Mae’r cynlluniau manwl ar gyfer pentref llesiant a gwyddorau bywyd gwerth £200m ger Llanelli wedi cael eu cyhoeddi.
Bydd cynllun Pentre Awel yn cynnwys canolfan hamdden, pwll nofio hydrotherapi, gofod academaidd, ymchwil a busnes, cyfleusterau iechyd ac adferiad, llety byw cynorthwyedig, tai marchnad agored a thai cymdeithasol, cartref nyrsio a gwesty yn rhan o’r datblygiad.
Mae’n un o naw prosiect dinesig ar gyfer Dinas-Ranbarth Bae Abertawe, ac mae’r amlinelliad o’r cynlluniau eisoes wedi cael ei gymeradwyo, a’r rheiny’n trafod hygyrchedd, parcio, y tirlun ac asesu llifogydd.
“Bydd y cymysgedd o bwrpasau’n creu lle bywiog ac amrywiol fydd yn denu amrywiaeth eang o bobol ac yn integreiddio’r ifanc, henoed a phobol fwyaf bregus y gymuned leol,” meddai datganiad dylunio a hygyrchedd ar ran y Cyngor.
Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys coetir a gerddi synwyryddol a chlos, gydag adeiladau wedi’u cysylltu drwy stryd ganolog.
Y cam cyntaf
Mae’r Cyngor wedi penodi contractiwr, Bouyges UK, i gyflwyno cam cyntaf Pentre Awel.
Bydd y cam cyntaf hwn yn cynnwys adeiladu’r ganolfan hamdden a’r cyfleusterau addysg, busnes, ymchwil ac iechyd.
Bydd y ganolfan hamdden yn cynnwys pwll nofio 25m wyth lôn, neuadd chwaraeon, campfa a stiwdio ffitrwydd, ardal chwarae a phwll nofio hydrotherapi.
Ymhlith partneriaid Pentre Awel mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Coleg Sir Gâr, Coleg Sir Benfro, Coleg Gŵyr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Bydd yr arian ar gyfer y prosiect £200m yn dod o’r sector cyhoeddus (£52m), llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig (£40m) a’r sector preifat (£108m).
Mae disgwyl i 1,850 o swyddi gael eu creu fel rhan o brosiect Pentre Awel, ac y bydd yn rhoi hwb o fwy na £460m i’r economi leol dros gyfnod o 15 mlynedd.
Mae’r safle ar 83 erw o dir brown a oedd unwaith yn gartref i ddiwydiannau, gan gynnwys gweithfeydd tun.
Mewn cyfarfod ym mis Chwefror, clywodd Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin fod cynnydd da wedi’i wneud o ran tenantiaid yn mynegi diddordeb ym Mhentre Awel.
Clywon nhw hefyd fod Bouyges UK wedi rhoi brasamcan i’r Cyngor o £87.07m fel cost ar gyfer cam cynta’r prosiect.