Mae senedd Lithwania wedi pleidleisio o blaid gwahardd y llythyren ‘Z’, rhuban du ac oren San Siôr a llu o symbolau eraill sy’n awgrymu neu’n datgan cefnogaeth i ymosodiad Rwsia ar Wcráin.

Mae’r llythyren ‘Z’ i’w gweld yn glir ar gerbydau milwrol Rwsia, ac mae hi bellach yn amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar ddillad sy’n cefnogi’r rhyfel.

Mae rhuban San Siôr hefyd yn arwyddocaol mewn gwledydd lle mae Rwsieg yn cael ei siarad, ers i cefnogwyr annibyniaeth yn nwyrain Wcráin ei fabwysiadu i ddatgan eu cefnogaeth i Rwsia yn 2014.

Gallai unrhyw unigolyn sy’n torri’r gwaharddiad gael dirwy o hyd at 900 Ewro, gyda dirwy o hyd at 1,500 Ewro i unrhyw gwmni sy’n anwybyddu’r gwaharddiad.

Mae gwaharddiadau tebyg eisoes wedi’u cyflwyno yn Latfia a Moldofa, ac fe fu’r Almaen yn ystyried gwaharddiad am gyfnod hefyd.

Yn ôl Dmytro Kuleba, mae’r llythyren ‘Z’ yn symbol o “droseddau rhyfel Rwsia, dinasoedd wedi’u bomio, a miloedd o Wcreiniaid wedi’u llofruddio”.