Mae Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, wedi ymddiheuro am ei “gamgymeriad” ar ôl cael dirwy am fod mewn parti oedd yn groes i reolau Covid-19.

Wrth annerch San Steffan, dywedodd ei fod yn cydnabod y loes a’r dicter mae’r digwyddiad wedi’i achosi, gan ychwanegu bod gan bobol yr hawl i ddisgwyl gwell.

Dywedodd nad oedd wedi ei daro y gallai’r cynulliad yn Ystafell Gabinet Downing Street ar gyfer ei ben-blwydd fod wedi bod yn groes i’r cyfyngiadau yr oedd ei lywodraeth ei hun wedi’u gosod yn sgil y feirws.

Mae hynny’n golygu bod modd iddo ddadlau nad oedd e wedi camarwain aelodau seneddol ynghylch y digwyddiad, ac felly ni fyddai’n rhaid iddo ymddiswyddo.

Fe ddywedodd eisoes ei fod e wedi cael sicrwydd nad oedd neb wedi torri’r rheolau, ac mae’n dweud erbyn hyn fod camau wedi’u cymryd er mwyn sicrhau nad yw’n digwydd eto.

“Fy nghamgymeriad i oedd hwnnw, ac rwy’n ymddiheuro’n ddi-ben-draw amdano,” meddai.

Cyn dechrau ei anerchiad, roedd galwadau arno o feinciau’r wrthblaid i ymddiswyddo.

Wcráin

Fel nifer o’i gyd-wleidyddion, fe ddywedodd Boris Johnson wrth i’w anerchiad barhau ei fod e’n dymuno canolbwyntio ar flaenoriaeth arall, sef yr hyn sydd ar y gweill yn Wcráin.

Fe wnaeth e ganmol y wlad am eu hymateb i ymosodiadau Rwsia, ac fe fu’n trafod cyfarfod â’r Arlywydd Volodymyr Zelenskyy.

Ond mae e hefyd yn rhybuddio am ymosodiadau sydd i ddod yn y wlad, gan alw am gryfhau Wcráin fel nad oes yna ymosodiadau eto.

Wrth droi at brisiau ynni, un o sgil-effeithiau’r rhyfel, fe wnaeth Boris Johnson ailadrodd sawl addewid gan y llywodraeth.

“Fy ngwaith i yw gweithio bob dydd i wneud pobol Prydain yn fwy diogel ac yn fwy llewyrchus, a dyna fydda i’n parhau i’w wneud,” meddai.

‘Am jôc!’

“Am jôc!” oedd ymateb Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, i sylwadau Boris Johnson.

Dywedodd fod y cyhoedd eisoes wedi penderfynu “nad ydyn nhw’n credu’r un gair mae e’n ei ddweud”, ac mai ei anerchiaad yw’r “hyn mae e’n ei wneud a’r hwn yw e”.

“Mae e’n anonest, yn methu newid ac yn llusgo pawb i lawr gyda fe,” meddai.

Ond fe gafodd Starmer rybudd i dynnu’r gair ‘anonest’ yn ôl, ac fe ychwanegodd fod Boris Johnson “yn gwybod beth yw e”.

Fe rybuddiodd e’r prif weinidog wedyn i “beidio â sarhau’r cyhoedd” ar ôl i weinidogion gymharu’r ddirwy am y parti â dirwy am oryrru.

Fe ddywedodd wedyn nad yw “hanner ymddiheuriad yn ddigon”, gan dynnu sylw at ddyn o’r enw John Robinson, a gollodd ei wraig yn ystod y pandemig.

“Byddai John wedi rhoi’r byd am gael dal llaw ei wraig pan oedd hi’n marw, hyd yn oed am naw munud [hyd y parti] – ond doedd e ddim yn gallu oherwydd fe wnaeth e ddilyn y rheolau,” meddai.

“Rheolau y gwnaeth y prif weinidog eu hanwybyddu’n fwriadol dro ar ôl tro.”

Dywedodd wedyn na fyddai “hanner ymddiheuriad fyth yn ddigon i John”.

Ymddiswyddo

Mae Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, wedi dweud nad yw rheolau San Steffan yn ei alluogi i alw Boris Johnson yn gelwyddgi.

Ond fe ategodd e sylwadau Syr Keir Starmer, gan ddweud bod y cyhoedd eisoes wedi penderfynu ar hynny.

“Pe bai ganddo fe gwrteisi, nid yn unig y byddai’n ymddiheuro, ond fe fyddai’n ymddiswyddo,” meddai.

Fe alwodd e wedyn ar y Ceidwadwyr i “dyfu asgwrn cefn” a’i ddiswyddo o fod yn arweinydd y Blaid Geidwadol.