Mae amlinelliad o gynlluniau ar gyfer dau ddatblygiad tai yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei wrthod.

Roedd datblygwyr wedi cynnig adeiladu ugain o dai yng Nghaerfyrddin, a naw arall ym Mhont-iets.

Roedd cwmni o’r enw Omnicorp eisiau adeiladu ystad yng Nghaerfyrddin ar dir i’r gogledd o Barc y Delyn, gyda mynediad newydd a gwelliannau ar Heol Penlan.

Yn ôl dogfen a gafodd ei chyflwyno fel rhan o’r cais, tai sengl fyddai’r 20 o dai a byddai hyd at chwech ohonyn nhw’n dai fforddiadwy.

Ychwanegodd fod canol y dref o fewn pellter cerdded.

Cafodd y cais ei wrthod gan swyddogion cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin, oedd yn dweud nad yw Heol Penlan yn ddigon llydan nac wedi’i halinio’n ddigonol i ymdopi â’r traffig ychwanegol, a bod prinder cyfleusterau digonol i gerddwyr ar y stryd.

Dywedodd swyddogion hefyd nad oedd digon o wybodaeth i asesu a oedd y strategaeth diogelu ymlusgiaid yn ddigonol, ac nad oedd y sawl oedd wedi cyflwyno’r cais wedi dod i gytundeb â’r awdurdod i sicrhau buddiannau’r gymuned.

Pont-iets

Cafodd y naw tŷ ym Mhont-iets eu cynllunio gan y datblygwr Mike Pursey yn Heol Llanelli, er bod mynediad o gyfeiriad Heol Ponthenri.

“Roedd y safle’n arfer bod yn iard a phwll glo gyda chledrau trên, a thros y blynyddoedd fe gafodd ei orchfygu gan brysgoed a choed bychain,” meddai adroddiad dylunio a mynediad a gafodd ei gyflwyno fel rhan o’r cais.

Cafodd mesurau ynni effeithlon a charbon isel eu cyflwyno ar gyfer y naw eiddo, gan gynnwys pympiau gwres, paneli solar a mannau gwefru cerbydau trydan.

Roedd disgwyl i nifer o’r coed a’r prysgoed gael eu cadw, gyda rhagor o wyrddni’n cael ei blannu.

Ond dywedodd swyddogion cynllunio fod y safle, sydd ar lethr, “wedi’i gyfyngu’n fawr” gan system garthffosiaeth gyhoeddus, llwybr dŵr a gweithgarwch glofaol yn y gorffennol, ac nad oedd wedi’i ddangos y gallai’r tir gynnal y tai o ystyried yr holl effeithiau hyn gyda’i gilydd.

Dywedon nhw hefyd nad oedd yna gytundeb tai fforddiadwy, na chyfraniad at gyfleusterau hamdden.

Mae modd i’r sawl a wnaeth y naill gais a’r llall apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor i’w gwrthod.