Mae Liz Saville Roberts wedi cyhuddo Boris Johnson o fod “fel iau ar war ei blaid”.

Daeth sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wrth iddi dynnu sylw at y ffaith nad oes yna’r un cyfeiriad at brif weinidog y Deyrnas Unedig ym maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer yr etholiadau lleol fis nesaf.

Ac fe ddaeth y sylwadau ar y diwrnod y bu Boris Johnson yn ymddiheuro am y ddirwy a gafodd am gynnal parti yn Downing Street yn ystod cyfnod clo Covid-19 yn 2020.

“Mae’r prif weinidog yn iselhau ei hun, mae’n iselhau ei swyddfa, mae’n iselhau ei lywodraeth ac mae’n iselhau’r sawl sy’n ceisio’i amddiffyn,” meddai Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd wrth siarad yn San Steffan.

“Mae o fel iau ar war ei blaid.

“Dydi maniffesto etholiadau lleol 18 tudalen y Ceidwadwyr Cymreig ddim yn cyfeirio unwaith at y prif weinidog.

“Dydyn nhw ddim yn ymddangos, fel nifer o’i aelodau meinciau cefn ei hun, fel pe baen nhw eisiau cysylltu eu hunain ag o.

“Ydi o’n gallu egluro pam?”

Ymateb Boris Johnson

“Mr Llefarydd, am wn i, yr hyn maen nhw eisiau ei gael yng Nghymru yw llywodraeth well, ac osgoi… byddwn i’n tybio eu bod nhw’n ymgyrchu tros fuddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd, a dw i’n ofni bod Llafur Cymru a Phlaid Cymru, ill dwy, wedi methu â’i gyflawni,” meddai Boris Johnson wrth ymateb.