Mae Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, wedi cyhoeddi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu pobol hŷn ac i herio’r ffordd yr ydym yn meddwl am heneiddio.
Cafodd y cynllun cyflawni ei lunio mewn partneriaeth â phobol hŷn a’u cynrychiolwyr.
Mae’r cynllun yn amlinellu’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wireddu’r weledigaeth yn Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio.
Mae £1.1m ar gael i awdurdodau lleol i gefnogi eu gwaith o blaid pobol hŷn, ac i sicrhau bod pobol hŷn yn rhan o’r gwaith o ddylunio a chynllunio gwasanaethau lleol.
Nod y camau yn y cynllun cyflawni yw codi ymwybyddiaeth o hawliau pobol hŷn, mynd i’r afael â thlodi sy’n gysylltiedig ag oedran, gwella gwasanaethau a mannau cyhoeddus, a lleihau unigrwydd drwy hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli fel ffordd o annog mwy o bobol i ddod yn rhan o’u cymunedau.
Mae’r camau penodol yn cynnwys:
- cefnogi pobol hŷn i fod yn hyderus yn ddigidol
- parhau â’r Rhaglen Prentisiaethau Bob Oed
- cefnogi busnesau i fod yn fwy cynhwysol o ran oedran ac i gadw, ail-hyfforddi a recriwtio gweithwyr hŷn
- ariannu gwelliannau i seilwaith gwasanaethau bysiau er mwyn sicrhau bod mwy o safleoedd bysiau a chyfnewidfeydd allweddol yn gwbl hygyrch i bawb
- mynd i’r afael â thlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni
- cynyddu nifer y bobol sy’n hawlio’r credyd pensiwn
‘Creu Cymru lle mae pawb yn edrych ymlaen at fynd yn hŷn’
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
“Rydym am greu Cymru lle mae pawb yn edrych ymlaen at fynd yn hŷn a lle caiff oedran ei ddathlu,” meddai Julie Morgan.
“Ein gweledigaeth yw cael Cymru o blaid pobol hŷn sy’n cefnogi pawb o bob oed i fyw a heneiddio’n dda.
“Yn rhy aml, mae heneiddio’n cael ei gysylltu â salwch a dirywiad ac mae cyfraniadau pobol hŷn i gymdeithas yn cael eu hanwybyddu.
“O sicrhau bod tai yn cefnogi pobol i heneiddio’n dda, i greu cyfleoedd i aros yn iach ac yn egnïol, mae’r cynllun hwn yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth a gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys y Comisiynydd Pobol Hŷn, i wrthsefyll rhagfarn ar sail oedran a gwireddu ein gweledigaeth i greu Cymru o blaid pobl hŷn.”
Heriau di-gynsail
“Mae heriau na welwyd eu tebyg yn wynebu pobl hŷn ar hyn o bryd,” meddai Victoria Lloyd, prif weithredwr Age Cymru.
“Mae llawer ohonynt wedi bod yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd ers sawl blwyddyn, ond mae’r broblem wedi gwaethygu’n aruthrol eleni oherwydd y cynnydd mewn biliau tanwydd a chostau byw.
“Daw hyn ar ben yr heriau o ran gorbryder, unigedd ac iechyd emosiynol y mae llawer o bobol hŷn wedi’u hwynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf drwy’r pandemig a’r cyfyngiadau symud a ddaeth yn ei sgil.
“Mae llawer i’w wneud i greu Cymru sy’n ystyriol o oedran, ac mae’n briodol felly bod y cynllun yn un eang ei gwmpas.
“Ymysg y blaenoriaethau mae camau i fynd i’r afael â thlodi a’r effaith andwyol y mae’n ei chael ar fywydau pobol hŷn, a mesurau i wella ymwybyddiaeth pob un ohonom o hawliau dynol fel y gall pobol hŷn fyw eu bywydau ag urddas ac yn unol â’u dewis.
“Rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wireddu eu huchelgais ar gyfer Cymru sydd o blaid pobol hŷn.”