Mae dyn o Bwllheli wedi mynegi siom nad oes llais Cymraeg bellach ar ap Waze sy’n gweithredu fel satnav.

Mae Waze wedi bod yn darparu llais Cymraeg i yrwyr “ers blynyddoedd”, meddai Gareth Jones wrth golwg360.

Mae’n dweud bod y llais wedi bod yn “arbennig o safonol”, ond ei fod e’n “siomedig” yn sgil ymateb a dderbyniodd gan y cwmni.

“Rwy’ wedi bod yn defnyddio llais Cymraeg Waze, sy’n rhoi cyfarwyddiadau wrth yrru car, ers blynyddoedd, ac wedi cael y llais i fod yn arbennig o safonol,” meddai.

“Mae yn brawf cyhoeddus bod y Gymraeg yn fyw yn yr oes dechnolegol hon.

“Yn sydyn, sylwais nad oedd ar gael.

“Anfonais ymholiad, a dyma’r neges a dderbyniais [yn Saesneg]: ‘Diolch am gysylltu â ni am y llais Cymraeg hyrwyddol. Rydym yma i helpu. Roedd y llais a’r hwyliau Cymraeg ar gael am gyfnod penodol fel rhan o hyrwyddiad arbennig’.

“Roeddwn yn hynod siomedig i dderbyn yr ymateb hwn. Cam mawr yn ôl.”

Sut mae Waze yn gweithio?

Mae Waze yn cyfrifo’r llwybrau teithio cyflymaf drwy gasglu gwybodaeth yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr y teclyn.

Mae’n gwneud hyn drwy fonitro symudiadau, a chasglu data a gwybodaeth yn fyw gan ddefnyddwyr am draffig, felly does dim angen dibynnu ar yr awdurdodau lleol am wybodaeth.

Nod Waze yw cynnig llwybrau teithio amgen os yw’r data’n dangos rhwystrau sy’n atal gyrwyr rhag teithio’n gyflym.

Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim, ac mae’n cael ei ddefnyddio gan fwy na 100m o bobol ar draws y byd.

Cafodd ei sefydlu’n gwmni annibynnol yn 2008, ond cafodd ei brynu gan Google bum mlynedd yn ddiweddarach, ond mae’r dechnoleg ar wahân i dechnoleg Google ei hun.

Ers ei sefydlu, fe fu Waze ar gael mewn mwy na 50 o ieithoedd.

Ymateb

Yn ôl Waze, problemau technegol sy’n gyfrifol am ddiffyg llais Cymraeg.

“Mae’n ymddangos ein bod ni’n cael ychydig o drafferthion gydag ambell un o’n lleisiau ar hyn o bryd (gan gynnwys y Gymraeg),” meddai llefarydd wrth golwg360.

“Ond mae ein tîm yn gweithio ar y rhain, ac fe ddylen nhw fod yn gweithio’n fuan.”