Mae corff cynllunio annibynnol wedi penderfynu y bydd yn rhaid i un ym mhob pum tŷ sy’n rhan o ddatblygiad newydd yn sir Galway gael ei neilltuo ar gyfer siaradwyr Gwyddeleg, yn ôl yr Irish Times.

Bydd y cynllun preswyl ar gyfer 111 o unedau wedi’i leoli ger Baile Chláir, ac fe fydd yn cynnwys 73 o dai a 38 o fflatiau mewn dau floc.

An Bord Pleanála, y corff cynllunio cenedlaethol annibynnol, sydd wedi gwneud y penderfyniad ynghylch yr iaith.

Mae safle’r datblygiad o fewn y Gaeltacht, ryw 10km i’r gogledd-ddwyrain o ddinas Galway, ac fe ddaeth y bwrdd apeliadau i’r casgliad fod rhaid cynnwys amod i gyfyngu perchnogaeth 22 o’r unedau i siaradwyr Gwyddeleg yn dilyn argymhelliad Cyngor Dinas Galway.

Dywedodd y Cyngor y dylid neilltuo’r tai am gyfnod o 15 mlynedd i’r sawl sy’n gallu dangos y gallu i warchod iaith a diwylliant y Gaeltacht, ac mae Cynllun Datblygu Sir Galway yn nodi na fydd unrhyw gais cynllunio sy’n cael effaith negyddol ar yr iaith yn cael ei gymeradwyo.

Yn ôl y bwrdd, fe fydd safon iaith perchnogion y tai a’r dull o fesur y safon yn cael ei gytuno’n ysgrifenedig â’r awdurdod cynllunio.

Mewn datganiad ar yr iaith gan y datblygwyr, K King Construction, dywedon nhw y byddai neilltuo’r tai i siaradwyr Gwyddeleg “yn helpu i gryfhau’r iaith yn y pentref, a bod hyn yn ychwanegol at unrhyw siaradwyr Gwyddeleg pellach a allai lenwi’r 89 uned arfaethedig sy’n weddill”.