Mae Llywodraeth Sbaen yn gwadu eu bod nhw wedi gwneud unrhyw beth o’i le, yn dilyn ffrae ysbïo ac ar ôl honiadau bod hyd at 65 o unigolion a mudiadau o blaid annibyniaeth wedi cael eu targedu gan feirws cyfrifiadurol.
Does gan y cabinet “ddim byd i’w guddio”, meddai llefarydd ar ran y llywodraeth wrth ymateb i ymchwiliad gan The New Yorker a Citizen Lab, gan ychwanegu eu bod nhw’n barod i “gydweithio hyd eithaf eu gallu” ag unrhyw ymchwiliad pellach.
“Fydd y cabinet ddim yn goddef gonestrwydd democrataidd Sbaen yn cael ei gwestiynu, gan fod y wlad hon yn un ddemocrataidd, ac yn wladwriaeth lle caiff hawliau unigolion eu parchu,” meddai’r llefarydd wedyn.
Ond mae’r llefarydd wedi wfftio ymchwiliad mewnol gan blaid Podemos, ac wedi gwrthod dweud a yw asiantaeth gudd-wybodaeth Sbaen yn defnyddio’r rhaglen ddadleuol Pegasus, sydd wedi arwain at yr helynt, gan fynnu bod y fath wybodaeth yn destun cyfreithiau cyfrinachedd.
Mae plaid Podemos wedi gofyn am eglurder gan Lywodraeth Sbaen, ond does dim disgwyl i’r prif weinidog Pedro Sanchez wneud datganiad ar y mater, gyda gweinidog arall, Margarita Robles, yn paratoi i wynebu cwestiynau yn ei le.
Mae Plaid Sosialaidd Catalwnia wedi mynegi pryderon am ysbïo posib, “p’un a ydyn nhw’n cefnogi annibyniaeth neu beidio”.
Yn y cyfamser, mae’r cyn-Arlywydd Quim Torra yn galw ar Pedro Sanchez i ymddiswyddo yn sgil yr helynt, ac fe fu’n galw ar Pere Aragonès i roi’r gorau i drafod annibyniaeth gyda Llywodraeth Sbaen, sydd bellach wedi digwydd.
Dydy Goruchaf Lys Sbaen ddim wedi ymateb i’r helynt na’r awgrym fod Llywodraeth Sbaen wedi bod yn ysbïo ac wedi gwario hyd at 20m Ewro ar y mater.
Er bod trafodaethau ynghylch annibyniaeth wedi dod i ben am y tro, mae disgwyl i’r ddwy lywodraeth barhau i drafod materion eraill, megis y cais i groesawu Gemau Olympaidd y Gaeaf yn 2030.