Bydd dau refferendwm yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod ym mis Gorffennaf fel bod trigolion mynyddoedd y Pyrenées yng Nghatalwnia yn cael dweud eu dweud ar y cynlluniau i gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf.
Y bwriad yw denu’r Gemau yn 2030, er bod Aragon bellach wedi tynnu’n ôl o’r cais i gynnal y Gemau ar y cyd.
Bydd y bleidlais yn cael ei chynnal ar Orffennaf 24, bron 30 mlynedd union ers cynnal Gemau Olympaidd yr haf yn Barcelona yn 1992.
Bydd un refferendwm yn ardaloedd Alt Pirineu ac Aran, ac un arall yn ardaloedd Berguedà, Solonès a Ripollès, gan mai dyma’r ardaloedd fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan y cais.
Bydd gofyn i bobol ddweud a ydyn nhw’n credu y dylai’r llywodraeth wneud y cais i gynnal y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ac mae Llywodraeth Catalwnia wedi dweud droeon y bydd eu penderfyniad terfynol yn seiliedig ar ganlyniad y refferendwm.
Bydd gofyn i drigolion Berguedà, Solonès a Ripollès ddweud a ydyn nhw’n teimlo y dylai’r ardaloedd hynny fod yn rhan o’r cais, gan gynnwys bod yn safle hyfforddi ac yn lleoliad gweithgareddau eraill cyn y Gemau.
Ond byddai’r cais yn mynd rhagddo hyd yn oed pe bai pobol yn pleidleisio ‘Na’ yn yr ail bleidlais, ar ôl i’r ardaloedd hyn frwydro’n galed yn y lle cyntaf i gael dweud eu dweud.
Mae Pere Aragonès, Arlywydd Catalwnia, wedi cytuno i gynnal y ddwy bleidlais ymhen tri mis.
Fydd trigolion Barcelona ddim yn cymryd rhan, serch hynny, gan nad yw’r cynlluniau’n effeithio ar ei thrigolion yn uniongyrchol, ac mae’r brifddinas yn hen gyfarwydd â chynnal digwyddiadau o’r maint yma beth bynnag.
Bydd pobol dros 16 oed sydd wedi bod yn yr ardaloedd dan sylw ers dros flwyddyn yn ddi-dor yn cael pleidleisio, ac mae disgwyl i’r refferendwm gostio hyd at 1.1m Ewro.