Joe Clarke, batiwr Swydd Nottingham a gafodd ei addysg yn Ysgol Llanfyllin, yw prif ddewis tîm criced y Tân Cymreig ar gyfer y gystadleuaeth Can Pelen eleni.

Mae’r tîm dinesig yng Nghaerdydd hefyd wedi denu’r troellwr coes Adam Zampa o Awstralia, y bowliwr Naseem Shah o Bacistan, a David Miller, y batiwr o Dde Affrica sydd wedi chwarae i Forgannwg.

Maen nhw hefyd wedi ailarwyddo’r batiwr Tom Banton, sy’n chwarae i Wlad yr Haf, Sam Hain (Swydd Warwick) a Jacob Bethell, un o sêr tîm dan 19 Lloegr yng Nghwpan y Byd eleni.

Mae’r Tân Cymreig wedi cadw sêr Lloegr, Jonny Bairstow ac Ollie Pope, yn ogystal â’r capten Ben Duckett, ail brif sgoriwr y gystadleuaeth y tymor diwethaf.

Mae Jake Ball, Josh Cobb, Matt Critchley, Leus du Plooy, Ryan Higgins a David Payne hefyd yn dychwelyd i Gymru.

Mae Tammy Beaumont, seren tîm merched Lloegr, wedi symud i’r Tân Cymreig o London Spirit i arwain tîm prifddinas Cymru.

Hefyd yn ymuno â thîm y merched mae Rachael Haynes ac Annabel Sutherland o Awstralia, sydd newydd ennill Cwpan y Byd, yn ogystal â Hayley Matthews o India’r Gorllewin, sy’n ail brif sgoriwr yn hanes Cwpan y Byd.

Mae Fran Wilson a Sarah Bryce hefyd yn ymuno o’r pencampwyr, yr Oval Invincibles, ac Alex Hartley yn symud o’r Manchester Originals, gyda Fi Morris yn symud o’r Southern Brave.

Ymateb

“Dw i tu hwnt i fod wedi cyffroi o gael arwain y Tân Cymreig yr haf yma,” meddai Tammy Beaumont.

“Ro’n i wrth fy modd yn ystod fy amser gyda London Spirit, ond roedd y cyfle i fod yn gapten ar y Tân Cymreig yn rywbeth nad oeddwn i’n gallu ei wrthod.

“Rydyn ni’n adeiladu carfan dalentog iawn, yn llawn chwaraewyr o safon fyd-eang ac allwn ni ddim aros i fynd allan gerbron ein cefnogwyr anhygoel yng Nghaerdydd a chreu sioe.”

Yn ôl Joe Clarke, mae cael bod yn ail ddewis i’r Tân Cymreig “yn dipyn o beth”.

“Dw i’n freintiedig fod y Tân Cymreig wedi fy newis i i ymuno â’u tîm nhw,” meddai.

“Alla i ddim aros i gael bod yng Ngerddi Sophia yr haf yma ac ymroi’n llwyr gyda’r lle’n llawn.

“Mae gyda ni’r potensial i fod yn dîm gwych, ac rydyn ni eisiau bod ar frig y tabl.”

Adloniant a’r gemau

Bydd Gerddi Sophia yn cynnig ystod eang o artistiaid cerddorol yn ystod gemau o ganlyniad i bartneriaeth barhaus gyda BBC Music Introducing.

Bydd dynion y tân Cymreig yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn Southern Brave yn yr Ageas Bowl yn Southampton ar Awst 3.

Bydd eu gêm gartref gyntaf yng Nghaerdydd yn erbyn yr Oval Invincibles ar Awst 7.

Bydd y merched yn dechrau yn erbyn Birmingham Phoenix yng Nghaerdydd ar Awst 13, gyda’r dynion hefyd yn herio’r un gwrthwynebwyr ar y penwythnos hwnnw.

Bydd y dynion a’r merched yn gorffen gartref yn erbyn Northern Superchargers ar Awst 26.