Mae Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi canmol Joel Piroe ar ôl i’r ymosodwr sgorio’i ddeunawfed gôl yn y Bencampwriaeth y tymor hwn yn y fuddugoliaeth o 1-0 oddi cartref ym Millwall neithiwr (nos Fawrth, Ebrill 5).

Yn ôl Martin, mae gan yr Iseldirwr feddylfryd sy’n gweddu i sgoriwr goliau yn y gynghrair.

Daeth y cyfle i Piroe ar ôl 45 munud, a hynny wrth iddo aros ar ymyl y cwrt cosbi cyn taro’r bêl heibio’r golwr Bartosz Bialkowski.

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod Abertawe bellach yn 14eg yn y Bencampwriaeth, a bod rhediad di-guro Millwall o saith gêm ar ben, ac maen nhw bellach yn ddegfed, bedwar pwynt islaw safleoedd y gemau ail gyfle.

“Os oeddech chi eisiau iddi gwympo i unrhyw un, fe yw hwnnw,” meddai Russell Martin am Joel Piroe.

“Mae e mor glinigol gyda’i ddwy droed, ac mae e’n dechnegol wych.

“Ond y peth pwysicaf iddo fe yw fod ganddo fe’r meddylfryd cywir o flaen y gôl.

“Mae e’n dangos pwyll, mae e’n bwyllog, ac mae e jyst yn canolbwyntio ar ei dechneg, sy’n rhywbeth sydd gan yr holl ymosodwyr gorau.”