Mae Matty Jones, cyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Cymru, wedi ymuno â thîm hyfforddi merched Cymru am weddill yr ymgyrch ragbrofol i gyrraedd Cwpan y Byd yn 2023.
Bydd e’n cynorthwyo Gemma Grainger am weddill yr ymgyrch.
Ar hyn o bryd, mae’n rheoli tîm dan 18 y dynion, ar ôl cael ei benodi gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ym mis Mehefin 2020.
Roedd e’n aelod o dîm hyfforddi Paul Bodin ar gyfer Cwpan Pinatar ym mis Chwefror eleni, ac ar gyfer y gemau rhagbrofol yn erbyn y Swistir a Bwlgaria i gyrraedd yr Ewros dan 21.
Bydd tîm y merched yn herio Ffrainc ym Mharc y Scarlets nos Wener (Ebrill 8), cyn teithio i Kazakhstan nos Iau nesaf (Ebrill 12).
‘Amser gwych i fod ynghlwm wrth y tîm’
“Mae’n amser gwych i fod ynghlwm wrth y tîm am weddill yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd y Merched FIFA,” meddai Matty Jones.
“Mae’n gyfle gwych i barhau â’m datblygiad fel hyfforddwr, ac i gefnogi ymhellach yr aliniad ar draws timau a llwybrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Dw i wedi cael cyfle hyfryd i weithio eto gyda Gemma sydd, fel Rob Page, yn arweinydd gwych ac yn esiampl dda i ddarpar-hyfforddwyr fel fi, gan fy ngalluogi i brofi arferion da ar frig y gêm ac i gyflwyno’r prosesau hynny gyda’n timau oedran.”