Mae Pencampwriaeth Rygbi 7 Bob Ochr fwyaf Cymru’n dychwelyd i Gaerdydd yr wythnos hon (Ebrill 4-8).
Mae’r Urdd ac Undeb Rygbi Cymru’n disgwyl croesawu 100 o ysgolion, 400 o dimau, a 5,000 o chwaraewyr i gaeau Pontcanna a Llandaf i gymryd rhan yn yr ŵyl.
Eleni, wedi seibiant o ddwy flynedd yn sgil y pandemig, mae 20% yn fwy o dimau a 1,000 yn fwy o chwaraewyr wedi cofrestru er mwyn cymryd rhan o gymharu ag yn 2019.
Mae’r bencampwriaeth yn croesawu timau o ysgolion uwchradd, colegau ac ysgolion anghenion addysg arbennig, yn ogystal â chategori i ferched a bechgyn ar wahân.
Mae mwy o dimau merched wedi cofrestru eleni nag erioed o’r blaen hefyd, meddai’r trefnwyr.
Bydd gŵyl rygbi i blant a phobol ifanc o ysgolion Anghenion Addysg Arbennig yn cael ei chynnal fel rhan o’r bencampwriaeth hefyd, a bydd cyfle i ddisgyblion uwchradd a chynradd o ysgolion Anghenion Addysg Arbennig chwarae gemau TAG a dysgu sgiliau newydd.
Fe fydd Undeb Rygbi Cymru’n cynnal sesiynau blasu rygbi cadair Olwyn i ddisgyblion cynradd lleol hefyd, er mwyn codi ymwybyddiaeth o Bencampwriaeth Ewropeaidd Rygbi Cadair Olwyn 2023, a fydd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd.
Am y tro cyntaf, bydd S4C yn ffrydio’r bencampwriaeth yn fyw dros y pum niwrnod drwy YouTube a Facebook.
Rygbi drwy’r Gymraeg
Dywed Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, fod yr ŵyl yn gyfle i bobol ifanc fwynhau chwarae rygbi drwy’r Gymraeg hefyd.
“Yn dilyn dwy flynedd anodd i bawb rydym yn falch iawn o ddychwelyd i Gaerdydd eleni ar gyfer y twrnamaint 7 bob ochr mwyaf eto,” meddai.
“Rwyf mor falch o’r ŵyl gwbl gynhwysol hon sy’n cynnwys categorïau i ysgolion uwchradd, colegau ac ysgolion addysg arbennig, categori i ferched a bechgyn ar wahân ac am y tro cyntaf eleni – darlledu’r cystadlu yn fyw dros y pum niwrnod.
“Yn ogystal â meithrin talent i’r dyfodol, mae rygbi i bawb ac ynghyd a’r cystadlaethau wythnos hon fe fyddwn yn cynnal gweithdai rygbi cadair olwyn i ysgolion cynradd Caerdydd.
“Hoffwn ddiolch i’n partneriaid ond hefyd yr holl staff a’r gwirfoddolwyr – yn drefnwyr, hyfforddwyr a dyfarnwyr – sy’n gweithio drwy gydol y flwyddyn i roi profiadau a chyfleoedd arbennig i’n pobol ifanc i fwynhau chwarae rygbi a chymdeithasu gyda’i ffrindiau yn yr iaith Gymraeg.”
‘Rygbi yn ein gwaed’
“Mae rygbi yn ein gwaed ni fel cenedl ac yn rhan ohonon ni, a diolch i’n partneriaeth gyda’r Urdd, rydyn ni’n llwyddo i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ymwneud â’r gamp yn ogystal â hybu rhan annatod arall o’n diwylliant ni – yr iaith Gymraeg,” meddai Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru.
“Drwy gydweithio gyda’r Urdd rydym yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau rygbi llai traddodiadol, gan ddefnyddio ein prentisiaid i gynnal gweithgareddau rygbi hwyliog a chyflwyno’r cymunedau rheiny i gyfleoedd yn yr ysgol ac mewn clybiau.
“Rydyn ni hefyd yn falch iawn o allu cynnwys gŵyl rygbi i blant ag anableddau fel rhan o raglen Rygbi 7 yr Urdd ac Undeb Rygbi Cymru y tymor yma.
“Mae chwarae rygbi saith bob ochr yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau, ffitrwydd ac ymwybyddiaeth o chwarae gemau, ac mae’r gystadleuaeth yn helpu i gefnogi ein hamcanion craidd ni o gael mwy o fechgyn a merched i fwynhau rygbi – a datblygu gwell chwaraewyr ar gyfer y gêm ar bob lefel.”
Mae’r bartneriaeth rhwng yr Urdd ac Undeb Rygbi Cymru’n ffordd o gyflawni eu nodau drwy gynyddu’r nifer sy’n chwarae’r gêm a datblygu sgiliau wrth annog y defnydd o’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Fel rhan o’r bartneriaeth, mae sesiynau rygbi’n cael eu cynnal mewn ardaloedd difreintiedig hefyd.
Amserlen y bencampwriaeth:
Dydd Llun, Ebrill 4: Bechgyn Bl.12-13 a Merched Bl.11-13
Dydd Mawrth, Ebrill 5: Bechgyn Bl.8 a Merched Bl.7-8
Dydd Mercher, Ebrill 6: Bechgyn Bl.7 a Chystadleuaeth Ranbarthol
Dydd Iau, Ebrill 7: Bechgyn Bl.9 a Bechgyn Bl.11 a Rygbi Cadair Olwyn
Dydd Gwener, Ebrill 8: Bechgyn Bl.10 a Merched Bl.9-10 a Gŵyl Ysgolion Anghenion Addysg Arbennig