Wedi ffenestr ryngwladol gofiadwy, yn ôl gyda’u clybiau yr oedd chwaraewyr Cymru’r y penwythnos hwn wrth i’r tymor gyrraedd ei ddeufis olaf.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Nid yw Ben Davies yn sgorio llawer o goliau ond fe sgoriodd un bwysig i Spurs ddydd Sul, yn unioni’r sgôr yn un gôl yr un gyda pheniad taclus o groesiad Son Heung-Min toc cyn yr egwyl. Aeth ei dîm ymlaen i ennill yn gyfforddus wedi hynny, yn sgorio pedair arall yn yr ail hanner yn erbyn Newcastle i godi i’r pedwar uchaf yn y tabl. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Joe Rodon, wrth gwrs.

Ddydd Sadwrn, fe ddechreuodd Connor Roberts wrth i Burnley golli o ddwy i ddim yn erbyn Man City ac ar y fainc yr oedd Wayne Hennessey.

Gêm gyfartal a gafodd Leeds, un gôl yr un yn erbyn Southampton. Dechreuodd Dan James gan chwarae ychydig llai nag awr ond mae disgwyl i Tyler Roberts fod allan am sbel.

Wedi ei anafu y mae Danny Ward i Gaerlŷr hefyd ac nid oedd Fin Stevens yng ngharfan Brentford wrth iddynt hwy gael buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn eu cymdogion, Chelsea.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Y darbi Gymreig a oedd gêm fawr y penwythnos heb os gydag Abertawe yn syfrdanu Caerdydd gyda buddugoliaeth o bedair i ddim oddi cartref. Ben Cabango a oedd un o sêr yr Elyrch, yn sgorio’r ail gôl yn ogystal â chyfrannu at y llechen lân yn y pen arall. Roedd blas o ddiwrnod darbi llwyddiannus i Cameron Congreve hefyd, yn dod i’r cae fel eilydd hwyr.

Mark Harris a oedd yr unig Gymro a ddechreuodd y gêm i Gaerdydd er gwaethaf perfformiad gwych Rubin Colwill dros ei wlad ganol wythnos. Daeth yntau ac Isaak Davies oddi ar y fainc toc cyn yr awr wrth i Harris fynd yn y cyfeiriad arall. Aros ar y fainc a wnaeth Will Vaulks.

Brennan Johnson a Ben Cabango

Yn ogystal â Colwill, un o chwaraewyr gorau Cymru yn y gêm yn erbyn y Weriniaeth Tsiec nos Fawrth a oedd Brennan Johnson. Ac roedd ar dân o hyd i’w glwb ddydd Sadwrn, yn creu un a sgorio dwy o goliau Nottingham Forest wrth iddynt chwalu Blackpool o bedair i un. Roedd ychydig o newyddion da i Blackpool serch hynny wrth i Chris Maxwell ddychwelyd i’r fainc yn dilyn cyfnod hir allan gydag anaf.

Un arall sydd wedi gwella o anaf yn ddiweddar yw blaenwr Millwall, Tom Bradshaw, a sgoriodd ei gôl gyntaf ers dychwelyd mewn gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Luton ddydd Sadwrn. Roedd Tom Lockyer yn nhîm y gwrthwynebwyr.

Roedd ymddangosiad prin o ddechrau gêm i George Thomas wrth i QPR groesawu Fulham i Loftus Road. Y ddau Gymro yn nhîm y gwrthwynebwyr, Neco Williams a Harry Wilson, a gafodd y gorau o bethau serch hynny wrth i Fulham ennill o ddwy gôl i ddim i gadw eu mantais o wyth pwynt ar frig y tabl. Maent bellach angen pum pwynt o’u wyth gêm olaf i sicrhau dyrchafiad yn ôl i’r Uwch Gynghrair.

Bydd Huddersfield yn gobeithio ymuno â hwy, maent yn drydydd ar ôl curo Hull o gôl i ddim nos Wener gyda Sorba Thomas yn chwarae’r gêm gyfan.

Ym mhen arall y tabl, cododd Derby eu gobeithion main o aros i fyny yn fyw gyda buddugoliaeth o gôl i ddim yn erbyn Preston. Chwaraeodd Tom Lawrence y gêm i Derby ac roedd Andrew Hughes a Ched Evans yn nhîm Preston.

Peterborough sydd ar y gwaelod wedi i Dave Cornell ildio pedair mewn crasfa gan Middlesbrough. Nid oedd Neil Taylor yng ngharfan Boro.

Roedd buddugoliaeth o gôl i ddim i Stoke yn erbyn Sheffield United. Chwaraeodd Joe Allen y gêm gyfan yn ôl ei arfer, roedd James Chester ar y fainc ond nid oedd Adam Davies na Morgan Fox yn y garfan. Chwaraeodd Rhys Norrington-Davies y gêm gyfan i’r Blades.

Cafodd Ryan Hedges ddeg munud oddi ar y fainc i Blackburn wrth iddynt gael gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Coventry.

 

*

 

Cynghreiriau is

Ar ôl chwarae i Gymru nos Fawrth, nid oedd Chris Gunter yng ngharfan Charlton wrth iddynt golli o ddwy gôl i un yn erbyn Lincoln yn yr Adran Gyntaf ddydd Sadwrn. Dechreuodd Adam Matthews i Charlton ac roedd Regan Poole a Liam Cullen yn nhîm y gwrthwynebwyr.

Cafodd Nathan Broadhead brynhawn i’w gofio, yn dod ymlaen fel eilydd i Sunderland hanner ffordd trwy’r ail hanner yn erbyn Gillingham cyn sgorio unig gôl y gêm yn y pumed munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm. Mae’r tri phwynt yn codi’r Cathod Du i’r safleoedd ail gyfle.

Sgoriodd Cymro ym muddugoliaeth Fleetwood dros Crewe hefyd, Ellis Harrison yn dod ymlaen fel eilydd cyn sgorio trydedd ei dîm wrth iddynt ennill o dair i un. Roedd Dave Richards, Zac Williams a Tom Lowery i gyd yn nhîm Crewe, gyda Lowery yn creu eu hunig gôl hwy toc cyn yr egwyl. Nid oedd Billy Sass-Davies yn y garfan oherwydd anaf.

Roedd Gethin Jones a Jordan Williams yn nhîm Bolton wrth iddynt gael gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Wigan ond roedd Declan John, Josh Sheehan a Lloyd Isgrove i gyd allan gydag anafiadau. Roedd Isgrove yn agos at ddychwelyd i’r garfan yr wythnos hon cyn iddo ddioddef yr un anaf i linyn y gar eto mewn gêm i’r ail dîm. Eilydd hwyr a oedd Gwion Edwards i Wigan.

Roedd Owen Evans yn rhan o gêm gyffrous wrth i Cheltenham deithio i Accrington, y gôl-geidwad yn ildio pedair ond ei dîm yn llwyddo i sicrhau gêm gyfartal serch hynny. Nid oedd Ben Williams yn y garfan.

Dechreuodd James Wilson a daeth Luke Jephcott a Ryan Broom oddi ar y fainc wrth i Plymouth guro Rhydychen o gôl i ddim. Nid oedd Billy Bodin yng ngharfan y gwrthwynebwyr.

Peniad Sam Vokes a arweiniodd at ail gôl Wycombe yn eu buddugoliaeth hwy o ddwy i ddim yn erbyn Doncaster. Dechreuodd Joe Jacobson y gêm hefyd.

Colli a fu hanes Wes Burns gydag Ipswich, un gôl i ddim y sgôr yn erbyn Caergrawnt. Nid oedd Lee Evans yn y garfan.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Matthew Smith wrth i’r MK Dons guro’r Amwythig o ddwy gôl i ddim ac felly hefyd Charlie Caton i’r gwrthwynebwyr.

Yn yr ail Adran, roedd llechen lân i Tom King wrth i Salford guro Hartlepool o ddwy gôl i ddim a chwaraeodd Jonny Williams naw deg munud i Swindon mewn gêm ddi sgôr yn Rochdale.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Cafodd Aaron Ramsey y dechrau perffaith i’w gêm Old Firm gyntaf ddydd Sul, yn rhoi Rangers ar y blaen wedi tri munud yn unig. Colli o ddwy i un a fu hanes ei dîm yn y diwedd serch hynny, gyda’r Cymro’n cael ei eilyddio hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Aaron Ramsey

Fe adawodd Dylan Levitt garfan Cymru gydag anaf ar ddechrau’r wythnos ond nid oes dichon fod y chwaraewr canol cae wedi’i anafu’n ddrwg iawn gan iddo chwarae’r naw deg munud cyfan i Dundee United ddydd Sadwrn wrth iddynt gael gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Hibernian. Nid oedd Christian Doidge yng ngharfan Hibs.

Daeth Ben Woodburn ymlaen fel eilydd i Hearts wrth iddynt hwy gael gêm gyfartal yn erbyn Ross County ond nid oedd Alex Samuel yng ngharfan y gwrthwynebwyr.

Eilydd a oedd Marley Watkins i Aberdeen hefyd ond gwnaeth argraff ar ôl dod i’r cae yn erbyn Dundee, yn creu ail gôl ei dîm mewn gêm gyfartal ddwy gôl yr un.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Morgan Boyes i Livingston yn erbyn St Johnstone.

Yn dilyn campau Gareth Bale i Gymru, bu tipyn o ffws yn Sbaen gan nad yw’r Cymro yn gwneud yr un peth i Real Madrid. Braidd yn anodd ag yntau ddim yn cael ei ddewis! Yn holliach ac ar y fainc ond ddim yn cael ei ddefnyddio, dyna ei hanes eto’r penwythnos hwn wrth i’w dîm guro Celta Vigo nos Sadwrn.

Chwaraeodd Ethan Ampadu y gêm gyfan wrth i Venezia golli o gôl i ddim yn erbyn Spezia yn Serie A, Felly hefyd Rabbi Matondo wrth i Cercle Brugge gael gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Gent ym mhrif adran Gwlad Belg.

Methodd James Lawrence gemau Cymru oherwydd anaf ond roedd yn ôl yng ngharfan St. Pauli’r penwythnos hwn, yn dod ymlaen fel eilydd hanner amser wrth i’w dîm golli o gôl i ddim yn erbyn Hansa Rostock yn y 2. Bundesliga.