Mae’n debygol y bydd Catalwnia yn parhau â’u cais i gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf yn 2030 heb Aragon.
Roedden nhw wedi gobeithio cyflwyno cais ar y cyd, ond doedd awdurdodau Aragon ddim yn hapus gyda’r cytundeb o ran lle fyddai’r campau unigol yn cael eu cynnal.
Doedd neb o lywodraeth Aragon yng nghyfarfod Pwyllgor Olympaidd Sbaen ddoe (dydd Gwener, Ebrill 1), er eu bod nhw wedi gobeithio y bydden nhw’n gwneud tro pedol ac yn cymryd rhan yn y trafodaethau.
Pe bai’r cais yn llwyddiannus, y gobaith oedd y byddai Catalwnia yn croesawu’r sgïo yn La Molina-Masella, ac y byddai eirafyrddio a chystadlaethau dull rhydd yn cael eu cynnal yn Baquiera Beret.
Yn Boí Taüll fyddai’r sgïo mynydd, fydd yn ymddangos yn y Gemau am y tro cyntaf ymhen pedair blynedd ym Milan.
Roedd disgwyl i Aragon gynnal y biathlon, sgïo trawsgwlad a’r cystadlaethau sglefrio.
Mae Javier Lambán, arlywydd Aragon, wedi dweud y bydd ei lywodraeth yn cyflwyno cynlluniau amgen, “mwy teg a chytbwys”.