Bydd yr hen elyniaeth rhwng timau pêl-droed Caerdydd ac Abertawe’n parhau yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 3 o’r gloch heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 2), wrth i’r Elyrch geisio cyflawni’r ’dwbwl’ darbi cyntaf erioed.

Cipiodd yr Elyrch fuddugoliaeth o 3-0 ym mis Hydref, ac mae’n siŵr y bydd yr Adar Gleision yn awyddus i dalu’r pwyth yn ôl.

Mae’r ddau reolwr, Steve Morison yn y glas a Russell Martin yn y gwyn, yn adnabod ei gilydd yn dda ar ôl bod yn cyd-chwaraewyr yn Norwich. Ond fydd hynny ddim yn bwysig ar ôl y gic gyntaf.

Steve Morison a Chaerdydd

Un o’r prif bynciau trafod i Steve Morison gerbron y wasg yr wythnos hon oedd Rubin Colwill a’i berfformiadau i Gymru.

Daeth gôl gynta’r Cymro Cymraeg dros ei wlad yn y gêm gyfeillgar yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ac mae’r chwaraewr ifanc yn mynd o nerth i nerth, i’w glwb a’i wlad.

Dywed Morison nad yw e’n poeni am yr holl sylw mae Colwill yn ei gael, gan ddweud bod y cyfan “yn wych, yn anghredadwy”.

“Os ydyn nhw [Cymru] yn cyrraedd Cwpan y Byd, mae modd dadlau y byddai’n fwy na gwyliwr,” meddai.

“Pe bai gan Gymru eu tîm cryfaf, fel oedd ganddyn nhw yng ngêm Awstria, dyw e ddim yn chwarae.

“Fy unarddeg cryfa’ i ar hyn o bryd, efallai nad yw e’n dod i mewn bob tro. Ond bydd gemau pan fydd e.

“Mae Gareth Bale yn eistedd ar y fainc i Real Madrid ond yn cario’i wlad i Gwpan y Byd!”

Ond yn ôl Steve Morison, mae gan Rubin Colwill le i wella o hyd.

“Mae angen iddo fe ychwanegu at bob agwedd ar ei gêm,” meddai.

“Mae Rubin yn dalent arbennig. Mae ganddo fe lawer o nodweddion da.

“Does yna’r un pêl-droediwr da yn y byd sydd heb bethau i weithio arnyn nhw.

“Mae angen iddo fe ei reoli ei hun, mae angen i chi ei reoli fe [y wasg] ac mae angen i fi ei reoli fe.”

Russell Martin ac Abertawe, ac emosiwn y gêm fawr

Rheoli emosiwn yr achlysur yw’r gyfrinach i lwyddo yn y gêm fawr, yn ôl rheolwr Abertawe.

“Rydyn ni wedi cael cydbwysedd da o ran gweithio’n galed, gwneud gwaith tactegol a rhoi’r gêm mewn cyd-destun emosiynol i’r chwaraewyr,” meddai Russell Martin.

“Yr her i ni yw mynd yno a rhoi perfformiad y gall pawb fod yn falch ohono.

“Mae’n gyfle i gyffroi’n fawr i bawb sydd ynghlwm wrth y clwb.”

Ac eithrio Ryan Bennett, sydd wedi’i wahardd, mae gan y rheolwr garfan lawn wrth law ar gyfer y gêm, ac mae’r Elyrch wedi cael hwb o glywed bod dau o’u sêr, Flynn Downes a Jamie Paterson, yn holliach.

Doedd y naill na’r llall ddim ar gael ar gyfer y gêm ddiwethaf yn erbyn Birmingham cyn y ffenest ryngwladol.