Lloegr, Iran a’r Unol Daleithiau fyddai gwrthwynebwyr tîm pêl-droed Cymru pe baen nhw’n cyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar yn ddiweddarach eleni.

Cafodd yr enwau eu tynnu o’r het yn Doha heno (nos Wener, Ebrill 1), a byddai Cymru yng Ngrŵp B.

Ond maen nhw’n wynebu gêm ail gyfle yn erbyn naill ai’r Alban neu Wcráin, er bod sefyllfa’r gêm honno’n dal yn aneglur ar hyn o bryd.

Pe bai Cymru’n cymhwyso, byddan nhw’n herio’r Unol Daleithiau ar Dachwedd 21, Iran ar Dachwedd 25 a Lloegr ar Dachwedd 29, ond dydy’r lleoliadau ddim wedi cael eu cadarnhau eto.

Dyma’r grwpiau’n llawn:

Ymateb i grŵp posib Cymru

Mae’r newyddiadurwr Guto Llewelyn yn credu bod Grŵp B yn “grŵp hyfryd”.

Fe wnaeth Gwion Dafydd ymateb yn wahanol iawn cyn ac ar ôl i’r grwpiau gael eu datgelu:

Nid pawb sydd wedi cyffroi ynghylch gêm arall yn erbyn Lloegr chwaith: