Mae angen sicrhau nad yw chwedlau a stereoteipiau am drais rhywiol yn cyrraedd llysoedd barn, yn ôl un ymddiriedolaeth.
Dywed y Survivors Trust y dylid gwneud hynny drwy gyfnewid rheithgorau am banel o farnwyr arbenigol sydd â gwybodaeth am drawma mewn achosion o drais neu gam-drin rhywiol.
Mae’r holl system er mwyn erlyn achosion o drais a chamdriniaeth rywiol “wedi torri”, meddai’r ymddiriedolaeth wrth golwg360.
Fe wnaeth aelodau seneddol rybuddio’n ddiweddar fod angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig “fynd yn bellach, ac yn gyflymach” wrth newid y ffordd mae’r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r llysoedd yn trin troseddau rhyw ac achosion o dreisio.
Er bod mwy o achosion o dreisio nag erioed yn cael eu hadrodd i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr, mae nifer yr erlyniadau wedi gostwng 70% dros y pedair blynedd ddiwethaf.
Mynd i’r afael â stereoteipiau
Yn ôl y Survivors Trust, mae angen gwneud diwygiadau drastig i’r system gyfiawnder er mwyn cynyddu cyfraddau erlyniadau ar gyfer achosion o drais rhywiol a cham-drin.
“Un elfen y mae’n rhaid mynd i’r afael â hi yw’r ffordd mae’r troseddau hyn yn cael eu harchwilio a’u herlyn,” meddai llefarydd ar ran y Survivors Trust, ymddiriedolaeth sy’n cynrychioli asiantaethau sy’n cynnig cefnogaeth arbenigol i unigolion sydd wedi dioddef trais neu gamdriniaeth rywiol.
“Yn rhy aml o lawer, mae’r pwyslais yn rhy drwm ar weithredoedd y dioddefwr / goroeswyr yn hytrach na gweithredoedd y cyflawnwr.
“Mae angen gweithredu er mwyn mynd i’r afael â diwylliant o feio dioddefwyr yn y system gyfiawnder er mwyn sicrhau bod unigolion yn teimlo eu bod nhw’n cael cefnogaeth ac yn teimlo’n hyderus i fynd drwy’r broses gyfreithiol.
“Rydyn ni’n gwybod pa mor hollbresennol yw stereoteipiau a chwedlau am dreisio dwy ein cymdeithas, felly er mwyn sicrhau nad yw’r chwedlau hynny’n cyrraedd y llys, rydyn ni’n awgrymu bod rheithgorau’n cael eu cyfnewid am banel o farnwyr sydd â gwybodaeth arbenigol am drawma.”
Cefnogaeth i oroeswyr
Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi y llynedd, cafodd 63% o ymchwiliadau i achosion o dreisio oedolion eu dirwyn i ben gan nad oedd y dioddefwr yn dymuno parhau â’r achos, yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Dethol Materion Cartref San Steffan.
“Mae nifer o oroeswyr yn dweud wrthym ni fod eu profiad gyda’r heddlu ac wrth rhoi tystiolaeth yn y llys yn gallu bod yn brofiad sy’n eu hail-drawmateiddio,” meddai’r Survivors Trust.
“Yn aml, mae gan oroeswyr ofn na fydd pobol yn eu coelio, neu’n poeni eu bod nhw am gael eu beio.
“Dyna pam ein bod ni’n ymgyrchu’n gryf dros wella’r gefnogaeth i oroeswyr a helpu i sicrhau bod gan oroeswyr sydd eisiau mynd at yr heddlu y gefnogaeth briodol i allu gwneud hynny.”
Mae angen cynyddu’r gwariant ar gyfer gwasanaethau Cynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol (ISVAs) ac mae angen i bob goroeswr gael wybod sut i gael gafael ar y gefnogaeth, meddai.
“Mae angen i oroeswyr gael gwybod am God Ymarfer Dioddefwyr hefyd er mwyn iddyn nhw gael dealltwriaeth well o’u hawliau.
“Er bod y cod yn gam ymlaen i helpu unigolion ddeall eu hawliau mae, mae yna ffordd bell i fynd i er mwyn sicrhau bod goroeswyr yn derbyn cefnogaeth briodol.
“Mae’r newidiadau yr hoffwn ni eu gweld yn cynnwys: mynediad i oroeswyr at gynrychiolaeth gyfreithiol a mwy o ddefnydd o dystiolaeth wedi’i recordio o flaen llaw mewn achosion o dreisio a chamdriniaeth rywiol er mwyn helpu i osgoi ail-drawmateiddio goroeswyr wrth iddyn nhw roi tystiolaeth mewn llysoedd.”
‘Sefyllfa gywilyddus’
Clywodd y Pwyllgor Dethol am ddioddefwyr yn osgoi cael cefnogaeth iechyd meddwl gan eu bod nhw ofn y gallai’r sesiynau gael eu datgelu i’r amddiffyn yn yr achos llys.
Mae’r Survivors Trust yn credu y dylai cofnodion therapi dderbyn yr un lefel o warchodaeth a phreifatrwydd â chofnodion troseddol mewn achosion ynghylch trais neu gamdriniaeth rywiol.
“Ni ellir gorbwysleisio effaith trais rhywiol ar iechyd meddwl a llesiant person,” meddai.
“Mae symptomau trawma sydd ynghlwm ag anhwylder straen ôl-drawmatig yn cynnwys iselder, ôl-fflachiadau, pyliau o banig, a gorbryder difrifol sy’n effeithio ar fywyd dyddiol ac iechyd y dioddefwr.
“Mae cael sefyllfa lle mae dioddefwyr yn teimlo eu bod nhw’n gorfod aros blynyddoedd cyn gallu cael mynediad at therapi a chefnogaeth i leihau eu trawma parhaus yn gywilyddus.
“Mae yna ddadleuon hefyd bod dioddefwyr sy’n cael mynediad at therapi cyn yr achos llys yn gallu rhoi tystiolaeth gryfach a’u bod nhw’n sicr yn fwy gwydn i’r broses lys ei hun, sy’n drawmatig ynddo’i hun.”
‘System sydd wedi torri’
Ychwanega’r ymddiriedolaeth fod yr ôl-groniad mewn achosion yn mynd drwy’r llysoedd yn achosi “gofid sylweddol” i nifer o oroeswyr, gyda rhai unigolion yn aros blynyddoedd i’w hachos gyrraedd llys.
“Mae hyn yn annerbyniol ac yn ystod y cyfnod hwn mae’n anodd iawn i unigolion ddechrau gwella o’r profiad,” meddai.
Yn ôl adroddiad y pwyllgor seneddol, dylai nifer yr erlyniadau ddychwelyd i lefelau 2016 erbyn 2024, ond ni ddylid ystyried hynny fel tystiolaeth bod cyfiawnder yn cael ei sicrhau na’i ddefnyddio fel esgus i wneud dim, yn ôl y Survivors Trust.
“Hyd yn oed yn 2016, roedd nifer yr achosion oedd yn cyrraedd y llys yn lleiafrifol o gymharu â’r nifer o droseddau gafodd eu hadrodd i’r heddlu,” meddai.
“Ar y funud, rydyn ni’n gweld system gyfan sydd wedi torri, gyda rhai achosion yn cymryd blynyddoedd i gyrraedd y llys a dim ond 1.6% o achosion gafodd eu hadrodd i’r heddlu yn 2021 yn gorffen gyda chyhuddiad neu wŷs.
“Yn 2016, roedd y gyfradd gyhuddo yn 7.5%, ond yn 2011 roedd yn 15%.”