Yng Nghaerdydd mae’r rhestrau aros hiraf am wasanaethau iechyd meddwl plant a phobol ifanc am yr ail fis yn olynol.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf, doedd 88.3% o’r achosion a gafodd eu trosglwyddo i Wasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddim wedi cael sylw o fewn pedair wythnos, sef yr amser targed.
Yn ôl Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, dyma’r wythfed mis yn olynol i 80% neu fwy o’r achosion a gafodd eu trosglwyddo fethu â chael sylw.
Dydy’r ffigwr ddim wedi gostwng yn is na 70% ers mis Mehefin y llynedd.
‘Argyfwng’
“Mae hyn yn argyfwng, ac yn argyfwng na all barhau,” meddai Jane Dodds.
“Rhaid i ni drin iechyd meddwl yn gydradd â iechyd corfforol.
“Pe bai rhywun wedi torri coes, ni fyddai’n rhaid i ni aros dros bedair wythnos i’w thrin, felly pam ddylai fod yn dderbyniol i blentyn sy’n profi argyfwng iechyd meddwl aros cyhyd?
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi hybu achos iechyd meddwl Cymru, wedi gwthio am fwy o arian ar gyfer iechyd meddwl yn ystod trafodaethau ar y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru, gan gynnwys hwb ariannol ar unwaith i wasanaethau iechyd meddwl.
“Fodd bynnag, rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i gefnogi Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.
“Yr ystadegau hyn, o bell ffordd, yw’r gwaethaf yng Nghymru, a rhaid i’r Llywodraeth gydweithio â’r bwrdd iechyd i ddarparu amserlen fanwl ac adnoddau i glirio’r rhestrau aros.
“Ni ddylid gwneud hynny drwy roi meddyginiaeth neu ymyrraeth arall i blant, ond drwy sicrhau bod gan blant a phobol ifanc fynediad at therapi siarad o safon yn agos i le maen nhw’n byw.”
Ymateb y bwrdd iechyd
“Mae wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol bod nifer cynyddol o blant yn profi heriau iechyd meddwl ac mae hyn wedi gwaethygu yn ystod y pandemig,” meddai llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
“Dyma hefyd fu’r sefyllfa yma yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
“Rydym yn parhau i weld niferoedd uchel o blant yn dod i’n holl wasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl.
“O ganlyniad, mae gennym rai plant neu bobol ifanc a all aros hyd at chwe mis am apwyntiad CAMHS arbenigol, ond bydd nifer sylweddol yn cael eu gweld yn gynt na hyn.
“Fodd bynnag, er ein bod yn cydnabod bod gennym broblemau y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hwy o ran ein rhestr aros CAMHS, mae ein Gwasanaeth Iechyd Meddwl Sylfaenol wedi gweld 80% o gleifion o fewn 28 diwrnod ar gyfartaledd ers mis Tachwedd 2021.
“Mae unrhyw blant neu bobol ifanc sy’n profi argyfwng iechyd meddwl yn cael eu gweld o fewn 48 awr. Ers mis Hydref 2020, mae 81% o gleifion wedi’u gweld o fewn y targed hwn ar gyfartaledd.
“Mae gennym gynllun ar waith fel rhan o’n rhaglen Adfer ac Ailgynllunio i leihau amseroedd aros, ac rydym yn gweithio gyda phlant, eu teuluoedd, ein staff a’n cydweithwyr yn yr Awdurdod Lleol i sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at y gofal iawn.
“Yn ogystal, rydym yn gweithio gydag asiantaethau allanol, megis Healios, i ddarparu mwy o gapasiti i fodloni’r galw yr ydym yn ei wynebu ar hyn o bryd, ac i helpu i leihau’r rhestrau aros a’r amseroedd aros presennol.
“Rydym yn ymrwymedig i wella mynediad i gymorth cynnar, ac yn ddiweddar rydym wedi lansio ein gwefan Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl gyda chyngor wedi’i gyd-gynhyrchu gyda phobol ifanc, ac rydym hefyd wedi sefydlu ein tîm Pwynt Mynediad Sengl i gynnig atgyfeiriadau amserol i’n gwasanaeth ac ymgynghori â gweithwyr proffesiynol.
“Rydym hefyd yn gweithio ar nifer o drawsnewidiadau gwasanaeth eraill a fydd, gobeithio, yn gwella profiad ein plant a’n pobol ifanc dros y misoedd nesaf.”