Mae ymgyrch genedlaethol newydd yn annog gyrwyr i gadw’r ffyrdd a’u cydwybod yn glir a mynd â’u sbwriel adref gyda nhw.

Yn ôl ymchwil, mae 78% o bobol sy’n taflu sbwriel o’u ceir yn teimlo’n euog.

Mae ymgyrch newydd gan Cadwch Gymru’n Daclus yn annog gyrwyr i beidio â gadael unrhyw beth ar eu holau.

Bob blwyddyn, mae casglu a chael gwared ar sbwriel ar hyd ochrau ffyrdd Cymru’n costio o leiaf £3.5m, meddai Cadwch Gymru’n Daclus.

Fel rhan o’r ymgyrch, bydd hysbysebion awyr agored yn ymddangos ar fyrddau arddangos ar ochrau ffyrdd mewn mannau lle mae sbwriel yn broblem.

Bydd hysbysebion yn ymddangos mewn gorsafoedd petrol, ar gefn bysiau ac ar y radio i dargedu gyrwyr sy’n gwrando yn y car hefyd.

Ar benwythnosau prysur a gwyliau banc yn ystod yr haf, bydd nifer yr hysbysebion yn cynyddu er mwyn targedu cynifer o yrwyr â phosib.

‘Difetha ein gwlad’

Mae’r ymgyrch yn cael ei chynnal fel rhan o Caru Cymru, mudiad dan arweiniad Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobol i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Dywed Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, nad oes yna esgus dros daflu sbwriel ar hyd ochr y ffordd.

“Nid yn unig y mae’n difetha ein gwlad brydferth, a’r peth cyntaf mae ymwelwyr yn ei weld weithiau wrth gyrraedd Cymru, ond mae hefyd yn cael effaith sylweddol ar ein hamgylchedd a’n bywyd gwyllt,” meddai.

“Mae ein hymgyrch newydd yn gofyn i chi wneud y peth iawn a rhoi’r brêcs ar daflu sbwriel drwy dynnu sylw at sut mae sbwriel yn gwneud i bobol deimlo.

“Mae’r mwyafrif helaeth o yrwyr yn gwybod fod taflu sbwriel o’u cerbyd yn annerbyniol, ac rydyn ni am i bawb beidio â gadael unrhyw beth ar eu hôl.

“Pan fyddwch chi allan yn eich cerbyd, peidiwch â gadael unrhyw beth ar eich ôl.

“Cadwch eich cydwybod a’n ffyrdd yn glir drwy fynd â’ch sbwriel adref neu ei roi yn y bin agosaf.”

Mae’r grŵp wedi datblygu adnoddau i gwmnïau cludo nwyddau a gyrwyr masnachol eraill hefyd, ac mae modd dod o hyd i ddeunyddiau am ddim ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus.