Bydd cynllun pen pals newydd er mwyn pontio cenedlaethau Ynys Môn yn cael ei ymestyn i groesawu unrhyw un yn y sir – yn blentyn neu’n oedolyn – sy’n dymuno cymryd rhan.

Cafodd cynllun peilot ei sefydlu gyda phlant yn Ysgol Gynradd Henblas, Llangristiolus fis Hydref y llynedd, ar ôl i Fenter Iaith Môn weld y diddordeb yng nghynllun Pen Pals Gwynedd.

Mae’r cynllun yn cynnig cyfleoedd i blant ysgrifennu Cymraeg yn allgyrsiol, yn eu haddysgu am y grefft o ysgrifennu llythyr ac yn meithrin perthynas drwy eiriau, meddai Menter Iaith Môn.

Ynghyd â hynny, mae’n cynnig ffordd o fynd i’r afael ag unigrwydd ymysg pobol hŷn sy’n cymryd rhan, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw ymarfer ysgrifennu Cymraeg a chynnig cysur newydd drwy gyfeillgarwch newydd.

Rhannu straeon a hanesion

Dywed Mr Huw Jones, pennaeth Ysgol Gynradd Henblas, bod y cynllun wedi bod yn “brosiect hynod o gyffrous” i’r disgyblion.

“Nid yn unig yn adnodd arbennig iddyn nhw ymarfer eu sgiliau ysgrifennu, ond yn ffordd wych o ddod i adnabod pobol newydd yn ein cymdeithas a dod i wybod mwy am eu hanesion nhw,” meddai.

Un a oedd yn rhan o’r cynllun oedd Sydna Roberts, sy’n digwydd bod yn gyn-ddisgybl Ysgol Henblas.

“Cefais i lythyr ofnadwy o ddifyr drwy’r post gan ferch fach o’r enw Casi sy’n ddisgybl yn ysgol gynradd Henblas, fy hen ysgol i,” eglura Sydna Roberts.

“Roedd gweld fod y sgìl o ysgrifennu llythyr yn marw allan yn ddigalon iawn, felly braf iawn oedd gweld llythyr wedi’i ysgrifennu mor dda yn cyrraedd y tŷ un bore.

“Mae’r cynllun yma gan Menter Iaith Môn yn arbennig iawn. Mae’n ffordd arbennig o rannu straeon a hanesion, a hynny rhwng cenedlaethau fyddai byth yn ysgrifennu at ei gilydd fel arfer.

“Byddwn yn annog unrhyw un i fod yn rhan o’r cynllun yma.”

Datblygu sgiliau Cymraeg

Un o brif amcanion y cynllun gan Menter Iaith Môn yw cynnig cyfleoedd newydd a chyson i blant a phobol ifanc ddefnyddio’u Cymraeg.

Maen nhw hefyd am weld y genhedlaeth hŷn yn trosglwyddo eu hanes, eu hiaith a’u straeon i’r genhedlaeth iau mewn ffordd hwyliog, gyfeillgar a naturiol.

“Mae’r ysgol yn ffynhonnell bwysig iawn i drosglwyddo’r Gymraeg i blant a phobl ifanc, ac mae’n wir dweud mai’r ysgol yw’r unig ffynhonnell o Gymraeg y mae rhai plant o aelwydydd di-Gymraeg yn ei gael,” meddai Aaron Morris, swyddog y prosiect.

“Mae’r pandemig wedi amlygu’r angen am gynlluniau fel ‘Pen Pals’ er mwyn rhoi cyfleoedd ehangach i blant ddatblygu sgiliau cyfathrebu ac ysgrifenedig Cymraeg.

“Mae’r cynllun hefyd wedi bod yn adnodd arbennig i bobol hŷn yn ein cymdeithas, yn enwedig rŵan.

“Mae’r pandemig wedi bod yn gyfnod anodd ac unig iawn iddyn nhwythau, ac mae galluogi eu bod yn derbyn llythyr gan ddisgybl ysgol lleol yn plesio’n arw.”