Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi manteisio ar Sesiwn Holi’r Prif Weinidog yn San Steffan i alw am gyfraith i wahardd celwyddau mewn gwleidyddiaeth.

Daw hyn ar ôl i bôl piniwn gan Compassion in Politics ddangos bod 73% o bobol yn cefnogi’r syniad, gyda chyfres o sgandalau diweddar, gan gynnwys helynt partïon Downing Street, wedi arwain at lai o ffydd mewn gwleidyddion.

Mae 47% o bobol yn y Deyrnas Unedig wedi colli ffydd mewn gwleidyddiaeth a gwleidyddion dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl yr arolwg.

Dim ond 14% sy’n ymddyried yn y Ceidwadwyr i ddweud y gwir, tra bod y ffigwr yn codi i 20% ar gyfer Llafur.

Ond mae 32% yn dweud nad ydyn nhw’n ymddiried yn yr un blaid.

Mae 71% o bleidleiswyr Ceidwadol yn cefnogi cyfraith newydd, gyda’r ffigwr yn codi i 77% ymhlith pleidleiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol, a 79% ymhlith pleidleiswyr Llafur.

Mae 53% o bobol a bleidleisiodd dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd wedi colli ffydd mewn gwleidyddion, a 45% o Brexitwyr.

Cynsail

Yn 2007, pan ddaeth hi i’r amlwg fod Tony Blair, y Prif Weinidog Llafur ar y pryd, wedi dweud celwydd er mwyn cyfiawnhau’r rhyfel yn Irac, cafodd y Bil Cynrychiolwyr Etholedig ei gyflwyno gan Adam Price, oedd yn Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yr adeg honno.

Yn ôl y ddeddfwriaeth honno, fe fyddai wedi bod yn drosedd pe bai gwleidyddion etholedig llawn amser yn dweud celwydd, gan roi’r hawl i aelodau’r cyhoedd ffonio’r heddlu pe baen nhw’n credu bod trosedd wedi’i chyflawni.

‘Hynafol’

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae’r rheolau “hynafol” sy’n atal gwleidyddion ar hyn o bryd rhag tynnu sylw yn San Steffan at gelwyddau Boris Johnson yn golygu bod angen cyfraith yn fwy nag erioed o’r blaen.

“Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw ers 15 mlynedd am gyfraith i wahardd gwleidyddion rhag bod yn fwriadol gamarweiniol,” meddai Liz Saville Roberts wrth holi’r prif weinidog.

“Mae pôl newydd gan Compassion in Politics yn dangos bod 73% o bobol yn cefnogi’r fath gyfraith.

“A wnaiff y prif weinidog gefnogi Bil Dweud Celwydd mewn Gwleidyddiaeth?”

Wrth ateb, dywedodd Boris Johnson ei bod yn “hysbys fod rheolau’r Tŷ hwn yn mynnu ein bod ni’n dweud y gwir yn y Tŷ hwn, a dyna rydyn ni i gyd yn ceisio’i wneud”, a hynny er iddo fe gytuno â’r “egwyddor sylfaenol” o gyflwyno deddfwriaeth fis Ebrill y llynedd.

‘Dwyn celwyddgwn fel Boris Johnson i gyfrif’

“Mae pobol, yn gwbl gyfiawn, yn gandryll ynghylch ymddygiad y prif weinidog hwn, a’r ffaith fod rheolau hynafol y lle hwn yn ein hatal ni rhag ei ddisgrifio’n gywir,” meddai Liz Saville Roberts ar ôl y sesiwn.

“Mae system wleidyddol San Steffan yn gwbl analluog wrth ddwyn celwyddgwn fel Boris Johnson i gyfrif.

“All system sy’n seiliedig ar anrhydedd ddim gweithio pan nad oes gan y prif weinidog ddim [anrhydedd].

“Fe ddangosodd ateb Boris Johnson gymaint mae o wedi colli gafael ar y farn gyhoeddus.

“O ystyried bod 73% o bobol yn cefnogi ein cynigion, mae’n bryd i’r prif weinidog ddangos rhywfaint o wyleidd-dra a gweithredu.”

‘Mae angen gwleidyddion agored, gonest a thryloyw’

Yn ôl Jennifer Nadel, cyd-gyfarwyddwr Compassion in Politics, mae angen gwleidyddion sy’n “agored, gonest a thryloyw” a “gwleidyddion sy’n parchu’r cyhoedd ac wedi ymroi i’w gwasanaethu nhw”.

“Os nad yw’r system bresennol yn cynhyrchu’r lefel honno o arweinyddiaeth, yna mae angen newid y system,” meddai.

“Byddai ein cynnig ni – i’w gwneud hi’n ofyniad fod gwleidyddion yn onest â’r cyhoedd – yn gweithredu’r un rheolau yn San Steffan ag sydd eisoes yn bodoli ar gyfer busnesau, meddygon, athrawon a nifer o weithleoedd eraill.

“Pam ddylai fod un rheol i ni a rheol arall i wleidyddion?

“Dydy hi ddim yn deg ac mae’n amlwg nad yw’n gweithio.

“Mae dros 200,000 o bobol bellach wedi llofnodi ein deiseb yn galw am y fath gyfraith.

“Mae ein gwleidyddiaeth eisoes wedi suddo mor isel ag y gall fynd diolch i’r defnydd o gelwyddau, anwiredd a chamliwiadau dro ar ôl tro – mae’n bryd i rywun daflu siaced achub bywyd ati.” 

Dim sôn am Boris Johnson ym maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig: “Ydi o’n gallu egluro pam?”

Liz Saville Roberts yn dweud bod arweinydd y Ceidwadwyr “fel iau ar war ei blaid”

Boris Johnson a Rishi Sunak am gael dirwyon yn sgil partïon Downing Street

Daw hyn yn sgil ymchwiliad yr heddlu i achosion o dorri cyfyngiadau Covid-19, ac mae nifer yng Nghymru yn galw am eu hymddiswyddiadau