Onid yw’n bryd i ddarllenwyr a’r rhai sy’n ysgrifennu i Golwg sylweddoli beth mae’r holl ynni adnewyddadwy, ailwylltio a gwrthbwyso carbon yn ei olygu i Gymru a’i hiaith ymhlith ffermwyr y bryniau?

Dw i’n siarad Cymraeg yn ddigon rhugl ac mae fy naw o wyrion i gyd yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf (ac mae tri ohonyn nhw’n hanner Affricanaidd). Felly rydyn ni wedi chwarae ein rhan ar gyfer y dyfodol yma yn ninas Abertawe, ond wedyn yn gweld yr holl gynlluniau gwyrdd hyn yn bygwth dileu’r Gymraeg yng nghanolbarth Cymru wledig.

Mae’n iawn fod yna gywilyddio ynghylch sut mae rhai ymwelwyr â’r Wyddfa’n gadael sbwriel a charthion dynol ar lethrau’r mynyddoedd. Ond does fawr neb yn poeni ynghylch sut mae ein tirlun Cymreig yn cael ei halogi gan dyrbinau gwynt aneffeithiol a’i fod yn frith o baneli solar, a bod ein ffermydd ar y bryniau’n cael eu troi’n goedwigoedd i fuddsoddwyr dinesig sy’n mynd yn wyllt wrth ailwylltio a gwrthbwyso carbon.

Bydd hyn i gyd yn arwain, o ganlyniad, at golli ein hiaith yng nghymunedau ucheldiroedd Cymru.

Y peth nesaf, bydd gofyn i ni dderbyn ailgyflwyno eirth, lyncsod a bleiddiaid. Hei lwc y bydd yr hollysyddion a chigysyddion mawr hyn yn bwyta’r llabystiaid sbwriel crwydrol a chwrso’r holl rai eraill hyn sy’n ceisio elwa’n ariannol a dinistrio ein cenedl.