Mae hi’n bryder bod rhywun yn gallu prynu tŷ gwyliau, heb sôn am bedwar, meddai Cymdeithas yr Iaith wrth golwg360, wrth iddyn nhw ymateb i’r ffaith fod cyn-gystadleuydd Love Island wedi prynu tai i’w hadnewyddu yn Sir Benfro.
Bwriad Dr Alex George, sy’n dod o Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol, yw cynnig un o’r bythynnod fel cartref i ffoaduriaid o Wcráin a rhentu’r lleill fel tai gwyliau.
Er bod Jeff Smith, cadeirydd grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, yn croesawu’r ffaith ei fod am gynnig un o’r tai i ffoaduriaid, dydy hynny ddim yn esgusodi’r ffaith y bydd y gweddill yn dai gwyliau yn hytrach na chartrefi, meddai.
Yn ôl y meddyg, roedd y tai yn arfer bod yn dai rhent hirdymor, ond gan eu bod nhw ar dir eiddo arall, fydden nhw ddim wedi bod yn addas i rywun eu prynu fel cartrefi i fyw ynddyn nhw.
Dywedodd hefyd ei fod wedi derbyn bygythiadau o drais ar y cyfryngau cymdeithasol ers cyhoeddi’r newyddion, ac y bydd yn cynnig un o’r bythynnod ar rent i bobol leol os a phan fydd y teulu o ffoaduriaid yn penderfynu gadael.
“Gallai nifer o berchnogion ail dai ar draws Cymru ddilyn yr esiampl yma a rhoi cartref i ffoaduriaid o bob rhan o’r byd, os yw hynny’n ddiamod,” meddai Jeff Smith wrth golwg360.
“Gwneud elw yw’r bwriad wrth brynu tai gwyliau, rydyn ni eisoes yn gweld pobol yn cael eu troi o’u cartrefi, am ddim rheswm, er mwyn i landlordiaid ddefnyddio’r tŷ yn llety gwyliau neu ar gyfer AirBnB. Mae hynny ar gynnydd.
“Felly rydym yn falch o weld ffoaduriaid yn cael lloches ond dydy hynny ddim yn esgusodi’r ffaith fod gweddill y tai yn dai gwyliau yn hytrach na chartrefi.
“Mae’n bryder bod rhywun yn gallu prynu tŷ gwyliau, heb sôn am bedwar tŷ gwyliau, ac mewn sir sydd ymhlith y rhai lle mae prisiau wedi cynyddu fwyaf.”
Cafodd rali Nid yw Cymru ar Werth ei chynnal yn Nhrefdraeth yn Sir Benfro llynedd er mwyn tynnu sylw at y sefyllfa yn yr ardal a cheisio atal mwy o bentrefi rhag dilyn ffawd Cwm-yr-Eglwys – lle mai dim ond dau o’r 50 eiddo sydd gan breswylwyr trwy gydol y flwyddyn.
‘Siomedig iawn’
Dywedodd un ymgyrchydd ifanc o Sir Benfro wrth golwg360 ei fod yn canmol ymdrechion Dr Alex George i roi bwthyn i rai o Wcráin, ond ei fod dal yn mynd â “thri thŷ bant o’r farchnad i bobol leol”.
“Hefyd, mae hyn yn cyfrannu yn uniongyrchol at y cynnydd yng nghostau tai,” meddai Hedd Harries, fydd yn ymgeisio dros Blaid Cymru yn yr etholiadau lleol fis nesaf ac sy’n byw ym mhentref Bwlchygroes yng ngogledd y sir.
“Yn eironig, mae bron yr un nifer o ail gartrefi yn Sir Benfro â’r nifer o bobol sydd ar y gofrestr tai.
“Mae’n siomedig iawn i weld llysgennad iechyd y Deyrnas Unedig yn hyrwyddo’r fath beth, a dyw e’n bendant heb ystyried iechyd meddwl y Cymry ifanc sydd methu byw yn eu cymunedau wrth gymryd y cam hwn.”
‘Anaddas’ ar gyfer rhentu hirdymor
Wrth ymateb i feirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol am ei benderfyniad i brynu’r tai fel tai gwyliau, dywedodd Dr Alex George, sy’n llysgennad iechyd meddwl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, nad ydy’r eiddo yn “arbennig o addas” ar gyfer rhentu hirdymor.
“Mae’r eiddo dw i wedi’u prynu yn bedwar bwthyn gwyliau mewn un adeilad dan yr un weithred,” meddai ar Instagram.
“Mae ail gartrefi’n cymryd eiddo oddi wrth bobol leol.
“Mae adnewyddu bythynnod gwyliau sydd wedi mynd â’u pen iddynt a chyflogi glanhawyr lleol, cefnogi tafarndai a bwytai lleol, yn beth da.
“Dw i hefyd yn cyflogi adeiladwyr a masnachwyr lleol. Yn ogystal â rhoi bwthyn i ffoaduriaid.
“Yn ogystal, mae hwn wedi cael ei brynu fel eiddo busnes felly dw i wedi talu trethi a threth stamp sylweddol uwch a ddylai (ond efallai na fydd) yn cefnogi tai lleol.
“Ni fydd y rhain yn eistedd yn wag, gallaf roi sicrwydd o hynny.”
‘Nifer o fygythiadau’
Aeth yn ei flaen i ddweud mai beudy wedi’u troi’n ‘fythynnod’ yw’r eiddo, a’u bod nhw ar dir tai preswyl eraill.
“Mae yna resymau da pam ein bod ni wedi penderfynu y bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n dai gwyliau, a gall un ohonyn nhw fod ar gyfer teulu o ffoaduriaid, ac yna, ar gyfer pobol leol os yw’r teulu’n penderfynu gadael,” meddai wedyn.
“Dw i’n gwerthfawrogi’r rhai sydd wedi trio rhannu pryderon ynghylch tai yn yr ardal mewn ffordd barchus.
“Yn anffodus, dw i wedi derbyn nifer o fygythiadau o drais, sydd byth yn dderbyniol. Ac yn enwedig ddim camdriniaeth.
“Cymerwch fi ar fy ngair, fyddai hi ddim yn bosib i’r bythynnod yma gael eu prynu fel tai preswyl.
“Os (a fydda i ddim yn gwthio neb allan o’r drws) a phan fydd y ffoaduriaid eisiau gadael, byddaf yn gwahodd pobol leol i rentu’r fflat addas.”
Ychwanega ei fod yn hapus i gyfarfod ag arweinwyr lleol yn Sir Benfro er mwyn gweld sut y gallai helpu’r sefyllfa dai.