Mae dyn sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio Logan Mwangi, ei lysfab pump oed, yn dweud nad oedd e wedi ffonio ambiwlans pan gafodd e hyd i’w gorff, gan ei fod e wedi mynd i “banig”.
Mae John Cole, 40, yn gwadu iddo lofruddio’r bachgen bach, ac fe ddywedodd wrth Lys y Goron Caerdydd nad oedd e wedi dweud celwydd am wneud CPR i geisio achub ei fywyd.
Cafwyd hyd i gorff y bachgen bach yn afon Ogwr ger cartre’r teulu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar Orffennaf 31 y llynedd.
Roedd e wedi dioddef anafiadau catastroffig, oedd yn cael eu disgrifio fel rhai tebyg i anafiadau sy’n cael eu hachosi gan wrthdrawiad cyflymdra uchel neu gwympo o gryn uchder.
Mae erlynwyr yn dadlau bod John Cole, ynghyd ag Angharad Williamson, mam Logan, a llanc 14 oed nad oes modd ei enwi, wedi ymosod ar Logan sawl gwaith yn y dyddiau cyn ei farwolaeth.
Cafodd Cole ei holi yn y llys am y digwyddiadau ar Orffennaf 31, ac mae’n dweud bod Williamson wedi ei ddihuno yn sgrechian ac yn dweud iddi glywed Logan yn cymryd ei anadl olaf.
Cafwyd hyd i’w gorff yn ei ystafell wely, ac mae Cole yn dweud iddo wneud CPR gan fod “ei ben i un ochr, ei lygaid ar agor a’i bengliniau i fyny at ei frest”.
Gofynnodd yr erlynydd iddo a oedd e wedi ffonio am ambiwlans.
“Naddo,” meddai.
“Pam wnaethoch chi ddim galw am gymorth meddygol?” holodd wedyn.
“Doeddwn i ddim yn meddwl, roeddwn i jyst yn ceisio’i achub e,” meddai wrth ateb.
Pan gafodd ei holi pam nad oedd e wedi ffonio’r heddlu, dywedodd ei fod e “jyst wedi mynd i banig”.
“Fe wnes i ddihuno i farwolaeth Logan, ac fe wnaeth e fy nhaflu i,” meddai.
“Doeddwn i ddim yn meddwl yn iawn.
“Roedd popeth yn dymchwel. Roedden ni newydd fod yn brwydro i gael popeth yn ôl at ei gilydd.”
Awgrymodd yr erlynydd nad oedd e wedi ffonio am gymorth gan ei fod e’n un o’r rhai oedd yn gyfrifol am farwolaeth Logan, a bod ei stori am CPR yn gelwydd.
“Doedd hi ddim felly,” meddai wrth ateb.
Cefndir
Mae’r rheithgor eisoes wedi clywed bod y bachgen bach wedi bod yn gaeth i’w ystafell wely am wythnos ar ôl profi’n bositif am Covid-19, a’i fod e wedi cael ei drin fel carcharor.
Er ei fod e wedi profi’n bositif ar Orffennaf 30, dywedodd John Cole ei fod e wedi gorfod aros yn ei ystafell, a dywedodd gweithiwr cymdeithasol nad oedd hi wedi gweld Logan pan ymwelodd hi â’r teulu ar y diwrnod hwnnw.
Dywedodd Cole fod yn rhaid bod Logan wedi bod yn gwylio ffilm yn ystod ei hymweliad, ac nad oedd e wedi marw erbyn hynny nac wedi dioddef ymosodiad nac wedi mynd yn anymwybodol.
Mae John Cole eisoes wedi cyfaddef iddo wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy roi corff Logan yn yr afon, ond mae’n gwadu llofruddio’r bachgen bach ac mae’r achos yn parhau.