Yn dilyn llwyddiant y gyfres gyntaf, bydd cyfres ddrama The Pact yn dychwelyd am ail gyfres.

Bydd y gyfres, sydd wedi cael ei chyd-gomisiynu gan BBC Drama a BBC Cymru, yn dilyn stori newydd sbon gyda chymeriadau newydd, ac yn cael ei darlledu yn hwyrach eleni.

Mae’r ffilmio ar yr ail gyfres, sydd wedi cael ei hysgrifennu gan Pete McTighe, wedi dechrau’n barod, ac mae aelodau newydd yn cynnwys Rakie Ayola, yr actores o Gaerdydd sydd hefyd yn gyfarwyddwr gweithredol y gyfres.

Ymysg sêr eraill y gyfres mae Lisa Palfrey, Matthew Gravelle, Jacob Ifan, Mali Ann Rees, Jordan Wilks, Lloyd Everitt, Anthony Aaron, Christian Patterson ac Elizabeth Berrington.

Y gyfres newydd

Bydd y gyfres, sy’n cael ei chynhyrchu gan gwmni Little Door Productions yng Nghaerdydd, yn dilyn teulu sy’n ceisio dygymod â marwolaeth eu brawd.

Wrth iddyn nhw baratoi at briodas un aelod o’r teulu, mae dieithryn yn cyrraedd y dref gan honni cysylltiad na fyddai’r un ohonyn nhw wedi’i ddychmygu.

Wrth i gyfrinachau ddod i’r fei, mae’n rhaid i’r teulu ystyried pwy ydyn nhw, ac iddyn nhw golli rheolaeth ar eu bywydau, a chytundeb “ofnadwy” yw’r unig beth all eu hachub nhw.

Dywed Rakie Ayola, sy’n chwarae rhan y fam yn y teulu, ei bod hi wrth ei bodd ei bod hi’n gweithio â Little Door a BBC Wales eto gan arwain y “cast talentog hwn i ddod â stori hyfryd o ddirgel Pete yn fyw”.

“Fel cynhyrchydd gweithredol ar y gyfres, mae hi wedi bod yn hynod bwysig i fi weld y cyfoeth o gyfleoedd y mae’r cynhyrchiad hwn yn ei gynnig i dalent sy’n hen law yn y diwydiant yn ogystal â’r rhai sy’n newydd, tu ôl ac o flaen y camera,” meddai.

‘Cymeriadau cymhleth, hoffus’

Dyma ail gomisiwn y cwmni Little Door, a dywed y cynhyrchydd gweithredol Elwen Rowlands eu bod nhw i gyd wrth eu boddau’n cydweithio ar y gyfres.

“Mae hi’n stori gothig sy’n rhoi cymeriadau cymhleth, hoffus dan bwysau eithriadol, gan eu gorfodi i ymweld â’u gorffennol,” meddai.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ei rhoi hi ar y teledu.”

‘Mwy o droadau na phowlen o sbageti’

“Fe wnaeth The Pact ddal gafael y genedl, fe wnaeth ei effaith ledaenu fel tân gwyllt gan gymryd drosodd rhestrau rhaglenni mwyaf poblogaidd BBC iPlayer,” meddai Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru.

“Pan ofynnwyd a fydden ni’n mynd eto, roedd e’n benderfyniad hawdd iawn i’w wneud.

“Mae gan ysgrifennu Pete McTighe fwy o droadau na phowlen o spaghetti – cawsom ein hamsugno gan y cymeriadau a’r stori.

“Mae hi’n wych mynd eto, a gall dilynwyr fod yn sicr y byddan nhw’n dyfalu reit tan y diwedd.”

Hybu sgiliau a thalent Cymreig

Mae’r prosiect wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol a Sgrin Cymru, a dywed Gerwyn Evans, dirprwy gyfarwyddwr Cymru Greadigol, eu bod nhw wrth eu bodd eu bod nhw’n gallu cefnogi’r gyfres.

“Mae Little Door, sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, yn ffilmio yn ac o amgylch Cymru unwaith eto, gan arddangos ein cenedl fel lleoliad perffaith i ffilmio,” meddai.

“Bydd y cynhyrchiad hefyd yn creu mwy o gyfleoedd i ddysgwyr, gan adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hybu sgiliau a thalent.”

Mae peth o’r gyfres wedi cael ei ysgrifennu gan Joy Wilkinson, ac mae Connor Allen, Children’s Laureate Cymru, wedi bod yn ymddwyn fel ymgynghorydd straeon.