Bydd Helfa Straeon yn cael ei chynnal yn Llanbedr Pont Steffan dros wyliau’r Pasg er mwyn hybu darllen Cymraeg yn yr ardal.

Mae’r cynllun, a gafodd ei beilota yn Aberteifi dros y gwyliau hanner tymor diwethaf, yn gyfle i gefnogi busnesau annibynnol yr un pryd, yn ôl Menter Iaith Ceredigion.

Am gyfle i ennill y brif wobr, sef Kindle Fire 7, bydd angen i’r cystadleuwyr fynd o amgylch siopau’r dref i ddarganfod llyfrau yn eu ffenestri.

Mae’r helfa, sy’n cael ei threfnu gan Cered (Menter Iaith Ceredigion), Llyfrgell Ceredigion a Cardi Iaith, yn addas ar gyfer plant hyd at 14 oed a’u teuluoedd, ac yn rhad ac am ddim.

“Rydyn ni fel Cered yn trio hybu darllen Cymraeg yn lleol a chefnogi busnesau hefyd yr un pryd,” meddai Siriol Teifi, Swyddog Cymorth Cymraeg mewn Busnes Cyngor Sir Ceredigion, wrth golwg360.

“Mae’n dechrau yn y llyfrgell, casglu ffurflen o’r llyfrgell, wedyn bydd posteri bach o’r llyfrau’n cael eu cuddio mewn ffenestri siopau o amgylch Llanbed.

“Rydyn ni’n gwneud e ar y cyd â Llyfrgell a swyddogion siarter iaith Cyngor Ceredigion, hybu’r darllen yn Gymraeg yw e fwyaf.

“Mae e’n weithgaredd i’r teulu i gyd gymryd rhan ynddo. Fe wnaethon ni beilota fe yn Aberteifi’r hanner tymor diwethaf, ac wedi cael adborth da o fan hynny felly rydyn ni’n gwneud yr un peth nawr yn Llanbed, a gobeithio gallwn ni wneud e mewn trefi eraill yn y dyfodol.”

‘Cyfle i arddangos llyfrau Cymraeg’

Y syniad yw bod cystadleuwyr yn chwilio am y cyfrolau ac yn darganfod llyfrau newydd, yn ôl Siriol Teifi, sy’n dweud bod yr helfa’n gyfle i arddangos llyfrau Cymraeg.

“Mae’r llyfrau’n gysylltiedig â’r siop mae e ynddo, felly mae e jyst yn gyfle i weld pa lyfrau sydd mas yna,” meddai.

“Maen nhw ar gael yn y llyfrgell os ydyn moyn darllen nhw wedyn.”

Bydd hi’n bosib cymryd rhan yn yr helfa rhwng Ebrill 9 a 22, gyda’r helfa’n dechrau o Lyfrgell Llanbedr Pont Steffan.